Warnock: Penderfyniad 'gwarthus' i ohirio'r gêm yn Derby

  • Cyhoeddwyd
Neil WarnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwr Caerdydd, Neil Warnock yn anhapus gyda'r penderfyniad o ohirio'r gêm rhwng Derby a Caerdydd yn y Bencampwriaeth ddydd Sul

Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock wedi galw'r penderfyniad o ohirio'r gêm bêl-droed rhwng Derby a Caerdydd ddydd Sul fel un 'gwarthus'.

Fe gafodd y gêm oedd fod i ddigwydd yn stadiwm Pride Park, Derby ei gohirio am fod ardal o amgylch y stadiwm yn aniogel oherwydd yr eira.

Does dim dyddiad newydd wedi ei benderfynu eto ar gyfer chwarae'r gêm, ond roedd rheolwr yr Adar Gleision yn anhapus iawn gyda'r penderfyniad.

Dywedodd Warnock: "Fe gyrhaeddon ni'r stadiwm ac roedd y maes parcio'n glir, roedd y maes yn berffaith. Mae'n warthus a dweud y gwir."

'Lles cefnogwyr'

Fe gyhoeddodd Cynghrair Bêl Droed Lloegr (EFL) ddatganiad ar Twitter gan ddweud:

"Fe gafodd y penderfyniad i ohirio'r gêm rhwng Derby a Caerdydd ei wneud peth cyntaf y bore ma' yn dilyn trafodaethau gyda Derby County, Heddlu Sir Derby a Grŵp Ymgynghori Diogelwch (SAG).

"Fe gafodd y penderfyniad ei wneud er lles diogelwch cefnogwyr wedi i eira trwm ddisgyn dros nos yn Derby, oedd wedi casglu ar y ffyrdd o amgylch y stadiwm.

Pride ParkFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gêm yn stadiwm Pride Park ei gohirio oherwydd yr eira oedd o amgylch y stadiwm

Ychwanegodd y datganiad: "Daeth cyhoeddiad am 8:30 ac mae'r EFL yn fodlon gyda'r wybodaeth sydd wedi'i rannu mai dyma'r rhesymau pam fod y gêm wedi cael ei gohirio.

"Fe fyddwn yn rhoi cyfle i Gaerdydd i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach maen nhw'n teimlo sy'n berthnasol, cyn ymateb ymhellach."

Basai buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Derby wedi ymestyn mantais yr Adar Gleision i 10 pwynt o Fulham sydd ar hyn o bryd yn drydydd yn y Bencampwriaeth.

'Traed moch'

Ychwanegodd Neil Warnock: "Mae'n draed moch a ni sy'n gorfod derbyn hynny."

Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod Derby wedi bod yn trafod eu problemau o ran chwaraewyr sy'n dioddef o anafiadau drwy'r wythnos a bod y gohiriad yn cael ei groesawu gan y clwb.

"Drwy'r wythnos rwyf wedi bod yn gwrando ar sylwadau gan Derby, maen nhw wedi bod yn negyddol, ac roedd hynny cyn i'r eira ddechrau disgyn,

"Maen nhw wedi bod yn trafod ei sefyllfa o ran anafiadau, ddoe dywedodd y rheolwr Gary (Rowett) mai dim ond 10 chwaraewr oedd ganddyn nhw'n ymarfer, ac os base nhw'n gallu osgoi'r gêm y penwythnos yma, mi fase hynny'n iawn.

"Dylai pethau fel hyn gael eu hymchwilio, roedd y bechgyn i gyd yn edrych ymlaen, ond allwch chi ddim rhoi'r bai ar Derby am fod eisiau gohirio'r gêm, fase chi ddim eisiau chwarae yn ein herbyn ni ar hyn o bryd," meddai.