Grenfell: Fflatiau yng Nghaerdydd yn methu archwiliad

  • Cyhoeddwyd
Tan LlundainFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu bod cladin mewn chwe bloc o fflatiau uchel wedi methu profion safonau tân.

Yn wreiddiol roedd y fflatiau wedi cael eu harchwilio ar ôl trasiedi Tŵr Grenfell, ac wedi eu nodi fel rhai diogel.

Ond fe gafodd profion ychwanegol eu cynnal ac mae nhw'n dangos nad yw'r fflatiau yn cyrraedd y safonau cyfredol, gan bod y safonau yn uwch bellach na phan gafodd y cladin eu gosod yn y 1990au.

Mae bron i 600 o bobl yn byw yn y fflatiau, ac mae Cyngor Caerdydd yn dosbarthu llythyrau i bob un o'r preswylwyr.

Cadw golwg

Mae wardeniaid yn asesu'r adeiladau 24 awr y dydd, gyda mwy o gamerau cylch cyfyng yn cadw golwg ar y fflatiau, ac mae hi'n debygol y bydd angen tynnu'r cladin.

Roedd y Cyngor wedi adolygu diogelwch ym mhob un o'i fflatiau uchel wedi'r tân yn Grenfell.

Mae'r fflatiau yn Channel View, Grangetown, Tŷ Loudoun a Thŷ Nelson yn Nhre-biwt, a thri bloc yn Fflatiau Lydstep yng Ngogledd Llandaf. Mae nhw i gyd rhwng 11 a 16 llawr gyda rhwng 75 a 214 o breswylwyr yn byw yno.

Doedd yr arbenigwyr ddim wedi dod o hyd i ddeunydd cyfansawdd Aliwminiwm (ACM) yn unrhywun o'r blociau y llynedd, sef y math o cladin sy'n cael y bai am ledu y tân yn Grenfell.

Ond fe benderfynodd y cyngor gynnal mwy o brofion ar gais yr ymgynghorwyr.

Roedd y profion yma yn dangos bod y cladin yn methu safonau diogelwch, gan nad oedd mesurau atal lledu tân yn rhan o'r system cladin sy'n gorchuddio'r adeilad.

Dywedodd yr aelod cabinet ar gyfer Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne; "O ganlyniad i'r profion ychwnaegol mae cladin ar chwe bloc o fflatiau wedi methu safonau cyfredol.

"Yn amlwg fe fydd pawb sy'n byw yno yn bryderus iawn gyda'r newyddion, ond dwi am gysuro nhw ein bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau ein bod yn dilyn y cyngor tân diweddaraf.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau yn y gorffennol fod cladin ar fflatiau ym Mae Caerdydd wedi methu profion tân

Mewn llythyr at y preswylwyr mae'r Cyngor yn dweud ei fod yn ystyried sut i dynnu'r cladin mor fuan ac mor effeithiol a phosib.

Dywed y Cyngor hefyd y bydd drysau tân yn cael eu huwchraddio, gyda offer ysgeinito dwr yn cael eu rhoi ym mhob un o'r blociau.

Bydd sesiynau gwybodaeth ar gael ym mhob un o'r chwech bloch o fflatiau ddydd Mawrth.