Arglwydd Richard: Cofio am ei waith 'amhrisiadwy'

  • Cyhoeddwyd
Arglwydd Ivor RichardFfynhonnell y llun, PA

Bu farw Arglwydd Richard o Rydaman, cyn arweinydd Tŷ'r Arglwyddi yng nghyfnod Tony Blair, yn 85 oed.

Yn 2004, mewn adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Arglwydd Richard ofyn am fwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac i'r corff gael mwy o ACau.

Cafodd ei eni yn Y Betws, Sir Gaerfyrddin ac yn 1990 cafodd Ivor Richard ei urddo i Dy'r Arglwyddi.

Cyn hynny roedd yn Aelod Seneddol dros Barons Court yn Llundain rhwng 1964 a 1974.

Bu'n llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig rhwng 1974 a 1979, ac yn gomisiynydd Ewrop rhwng 1981 a 1985.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, fod Arglwydd Richard wedi chwarae rhan flaenllaw yn y setliad datganoli.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr Arglwydd Richard yn cael ei gofio am ei waith amhrisiadwy a baratoes y ffordd ar gyfer setliad datganoli presennol Cymru.

"Arweiniodd ei gadeiryddiaeth o Gomisiwn Richard i'r argymhelliad i ddatganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad - ac mae'n anodd dychmygu bywyd yng Nghymru heb ddatganoli oherwydd ei ymdrechion."