Pêl-droed merched angen 'mwy o arian' a strwythur gwell
- Cyhoeddwyd
Mae cyn Gadeirydd Chwaraeon Cymru yn dweud bod angen gwario arian a gwella'r strwythur hyfforddi er mwyn parhau i ddatblygu pêl-droed merched yng Nghymru.
Daw sylwadau'r Athro Laura McAllister - sy'n gyn gapten y tîm cenedlaethol - ar raglen Manylu Radio Cymru wrth i Gymru baratoi i wynebu Lloegr yn rowndiau rhagbrofol cwpan y byd.
"Pan mae merch yn cyrraedd ysgol, yn barod mae'n meddwl am bêl-droed fel gêm i fechgyn yn unig.
"A dyna'r broblem- rhaid inni roi mwy o gefnogaeth, mwy o arian a mwy o bwyslais yn gyffredinol ar y gêm menywod a'r oedran ifanca' yn fy marn i,"meddai Laura McAllister.
Angen 'strwythur cywir'
Rhan o'r gefnogaeth ydi cynyddu nifer y merched sy'n gallu hyfforddi ychwanegodd.
"Y broblem fwyaf ar y foment yw sicrhau bod y strwythur cywir yn ei lle i gael hyfforddwyr sy'n fenywod a chael gwirfoddolwyr sy'n cefnogi gêm y menywod.
"Os chi'n chwarae pêl-droed bechgyn neu ddynion mae pob tad yn gwneud rhywbeth, ond wrth gwrs does 'na ddim diwylliant o fenywod yn gweithio yn y gêm," meddai wrth nodi ei bod yn canmol ymdrechion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu gêm y merched.
Chwe mil a hanner o ferched sydd wedi eu cofrestru hefo clybiau yng Nghymru ar hyn o bryd. Y nod ydi cyrraedd 20,000 erbyn 2024.
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn ymgynghori a chlybiau a swyddogion clybiau yn ystod y misoedd diwethaf er mwyn pwyso a mesur yr anghenion.
"Byddwn ni'n deud bod y Gymdeithas eisoes yn buddsoddi dipyn o gymharu â gwledydd eraill pan chi'n edrych ar drosiant y sefydliad.
"Mae'r Gymdeithas yn bwriadu buddsoddi mwy yn y dyfodol gan gynnwys sefydlu rôl newydd - sef pennaeth ar gyfer gêm y merched - rôl bwysig fydd yn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gwireddu," meddai Llyr Roberts, sy'n ymgynghorydd i'r Gymdeithas Bêl-droed.
Buddsoddi yn y gêm
Mae'r Gymdeithas hefyd yn awyddus i godi safon Uwch Gynghrair y merched a buddsoddi mewn adnoddau ychwanegodd.
"Ni yn buddsoddi mewn tan adeiledd caeau ar draws Cymru - caeau ar lawr gwlad a chaeau ar lefel genedlaethol.
"Felly mi fydd 'na ddatblygiadau yn ardal Wrecsam a Chasnewydd fydd gobeithio yn sicrhau fod cyfle i'r gêm ddomestig a'r gêm ryngwladol.
"Y gobaith wedyn ydi pontio rhwng y gêm ddomestig a'r gêm ryngwladol, " meddai Llyr Roberts.
Mae dau o gyn chwaraewyr Cymru o'r farn bod safon y gêm a'r diddordeb mewn pêl-droed merched wedi cynyddu'n arw yn ystod y ganrif hon.
Yn ôl Tania Jones, sydd bellach yn ysgrifennydd clwb pêl-droed merched Caernarfon sydd yn rhan o Uwch Gynghrair merched Cymru, mae gêm y merched ar i fyny.
Mae mwy na chant o blant a merched yn chwarae i'r gwahanol dimau yn y dref.
"I fod yn onest does 'na ddim digon o oriau i hyfforddi mae 'na gymaint o ferched hefo diddordeb y dyddia yma achos bod y cyfle yna.
"Pan oeddwn i'n fach hefo'r hogia oeddwn i a doedd na ddim llawr o gyfleoedd. Mae'r cyfleoedd yna rŵan i enethod sydd yn grêt," meddai Tania Jones
Dyna farn Manon Lloyd Williams hefyd - oedd yn chwarae i Gymru ar yr un pryd a Tania Jones.
"Mae pêl-droed a chwaraeon eraill i ferched wedi tyfu a thyfu. Mae 'na dal dipyn o ffordd i fynd dwi'n meddwl i gyrraedd lle mae'r dynion ond mae 'na lot fwy o sylw a lot mwy o dimau i ferched rŵan," meddai.
Ddechrau Ebrill mi fydd tîm merched Cymru yn wynebu Lloegr yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Mae Cymru yn ddiguro hyd yma a'u llwyddiant yn ôl aelod o dîm Caernarfon wedi codi proffil gêm y merched.
"Dwi'n meddwl bod merched yn cael lot mwy o sylw rŵan na be oeddan nhw. Os gawn ni result da yn erbyn Lloegr neith proffil y gêm godi lot...mae'n edrych yn dda a ma' gynno ni sgwad reit gryf yn mynd mewn i'r gêm," meddai Elain Evans.
Manylu am 12:30 ar Radio Cymru ddydd Iau, 22 Mawrth
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018