Artistiaid sy'n perfformio'n Tafwyl yn cael eu cyhoeddi

  • Cyhoeddwyd
Candelas
Disgrifiad o’r llun,

Candelas yw un o'r bandiau sy'n perfformio eleni

Mae'r artistiaid fydd yn perfformio yn Tafwyl wedi eu cyhoeddi a hynny wrth i'r wŷl ddychwelyd i Gastell Caerdydd.

Y llynedd cafodd ei chynnal yng nghaeau Llandaf am nad oedd tir y castell ar gael yn sgil trefniadau Cynghrair y Pencampwyr.

Ymhlith y rhai fydd yn canu yn ystod y penwythnos rhwng Mehefin 30 a Gorffennaf 1 fydd Band Pres Llareggub, Alys Williams, Meic Stevens, Bryn Fon, Candelas, Fleur de Lys a Mabon.

Yn ôl y trefnwyr daeth dros 38,000 i'r ŵyl yn 2017, gyda dros 20,000 yn ymweld ddydd Sadwrn oedd yn record newydd.

Y tro yma mae Menter Caerdydd - sy'n trefnu'r digwyddiad - yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wŷl yn dychwelyd i'r castell eleni

Rhestr lawn o'r artistiaid fydd yn perfformio yn Tafwyl 2018:

  • Danielle Lewis,

  • Palenco,

  • Patrobas,

  • Cadno,

  • Lleuwen,

  • Candelas,

  • Y Cledrau,

  • Chroma,

  • Band Press Llareggub,

  • Alun Gaffey,

  • Adwaith,

  • Omaloma,

  • Nogoodboyo,

  • Aled Rheon,

  • Mabon,

  • Vri,

  • Lleden,

  • Eden,

  • Mabli Tudur,

  • Tecwyn Ifan,

  • Gai Toms,

  • Bryn Fon,

  • Daniel Lloyd a Mr Pinc,

  • Gareth Bonnello,

  • Alys Williams,

  • Glain Rhys,

  • Meic Stevens,

  • Welsh Whisperer,

  • Hywel Pitts,

  • Fleur De Lys,

  • Ffracas,

  • Bethany Celyn,

  • Eady Crawford,

  • Serol Serol,

  • Sybs,

  • Hyll,

  • Wigwam,

  • Los Blancos,

  • Gareth Potter,

  • Elan Evans,

  • Garmon,

  • Ian Cotrell,

  • Dj Dilys.

Bydd yr Yurt T yn ei ôl - sy'n lwyfan i berfformwyr ifanc- ac ymhlith y rhai fydd yn diddanu'r gynulleidfa fydd SerolSerol, Wigwam a Los Blancos a bandiau newydd o ysgolion Caerdydd.

Yn ogystal bydd cyfle i'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth werin i wneud hynny brynhawn dydd Sul yn Y Sgubor, sy'n bartneriaeth rhwng Trac a Chwpwrdd Nansi a bydd rhai bandiau gwerin hefyd yn perfformio ar y prif lwyfan.

Ond bydd digwyddiadau celfyddydol, chwaraeon, comedi ac ardal i blant hefyd yn Tafwyl gyda'r ŵyl ffrinj sy'n digwydd ar draws y brifddinas yn cael ei chynnal eto rhwng Mehefin 23 a Gorffennaf 1.

Digwyddiadau celf, rhai llenyddol, cerddoriaeth a theithiau cerdded yw rhai o'r pethau sy'n digwydd yn ystod y naw diwrnod.

Dywedodd aelodau Band Pres Llareggub sy'n perfformio eleni: "Mae'n gymaint o bleser gallu dychwelyd i chwarae Tafwyl eto eleni!

"Mae'r band i gyd bob tro wrth ei boddau yn chwarae'r brif ddinas ac mae'r digwyddiad blynyddol yma bob tro yn arbennig!

"'Da ni efo atgofion melys o Tafwyl 2016! Mae cael gymaint o fandiau mawr y sin Gymraeg i gyd yn chwarae mewn un lle yn barti a hanner."