Rheoli Cymru fydd 'anrhydedd fwyaf' gyrfa Ryan Giggs

  • Cyhoeddwyd
GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images

Rheoli ei wlad am y tro cyntaf fydd "anrhydedd" mwyaf ei yrfa hyd yma, yn ôl Ryan Giggs.

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae eu gem gyntaf yng Nghwpan China ddydd Iau, a hynny yn erbyn y tîm cartref yn Nanning.

Hon fydd gem gyntaf Giggs wrth y llyw ar ôl iddo gal ei benodi fel olynydd i Chris Coleman ym mis Ionawr.

'Llawer mwy nerfus'

Mewn cynhadledd ddydd Mercher, dywedodd: "Byddai'n llawer mwy nerfus yfory.

"Do'n i ddim wir yn mynd yn nerfus fel chwaraewr, ond mae mynd i mewn i reoli yn gwbl wahanol gan bod cymaint o bethau i feddwl amdanyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Ryan Giggs ddim yn fodlon cadarnhau os bydd Gareth Bale yn dechrau'r gêm yn erbyn China ddydd Iau

Ac er ei fod o wedi ennill medalau di-ri' fel chwaraewr hefo Manchester United, mae Giggs yn dweud mai rheoli ei wlad am y tro cyntaf fydd "eiliad mwyaf balch" ei yrfa.

"Dwi'n falch o gael bod yn rheolwr Cymru ac yn hyfforddi'r grŵp yma o chwaraewyr.

"Dwi llawn cyffro ar gyfer y gêm. Dwi wedi bod yn y swydd am ddeufis a dyma pam wnes i gymryd y swydd, ar gyfer y pêl-droed."

'Profiad gwych i bawb'

Ar ôl y gêm yn erbyn China, bydd Cymru'n wynebu un ai Uruguay neu'r Weriniaeth Tsiec ddydd Llun.

Yn ôl yr is-reolwr, Osian Roberts mae'r tîm yn cymryd y gystadleuaeth gyfeillgar o ddifri': "Mae'n gystadleuaeth, mae'n gwpan, a 'da ni isio mynd allan yna i'w hennill hi.

"Does na'm cymaint o gemau cyfeillgar bellach, ac oherwydd hynny maen nhw'n fwy o gemau cystadleuol, sydd gobeithio yn mynd i ddod a'r gorau allan o'n chwaraewyr ni.

"Mae ganddon ni rywbeth i anelu ato, mae'n mynd i fod yn brofiad gwych i bawb, ac edrych ymlaen at y gystadleuaeth."

Gallwch wylio'r gêm yn fyw ar Cymru Fyw, gyda sylwebaeth BBC Radio Cymru, am 11:25 ddydd Iau.