Actorion yn ail-greu achosion cyffuriau yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
County LinesFfynhonnell y llun, Heddlu Glannau Mersi
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr actorion yn perfformio dwy olygfa wahanol ar Sgwâr y Frenhines ddydd Sadwrn

Mae'r heddlu'n defnyddio actorion yn eu brwydr yn erbyn gangiau sy'n defnyddio pobl fregus i symud a chyflenwi cyffuriau.

Fe fyddan nhw'n defnyddio theatr stryd yn Wrecsam ddydd Sadwrn i ail-greu digwyddiadau go iawn ble mae pobl wedi'u hecsbloetio.

Enw'r digwyddiad yw County Lines - y term sy'n cael ei ddefnyddio pan mae gangiau mewn dinasoedd mawr yn cyflenwi cyffuriau i werthwyr mewn dinasoedd neu drefi llai.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn helpu teulu a ffrindiau i adnabod os oes rhywun maen nhw'n ei adnabod mewn perygl o gael eu hecsbloetio.

Carcharu 12

Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi dweud eu bod yn canfod mwy a mwy o dystiolaeth bod gangiau cyffuriau yn gweithio rhwng dinasoedd mawr yn Lloegr a dinasoedd a threfi llai yng Nghymru.

Cafodd 12 person oedd yn rhan o gang County Lines rhwng Llundain ac Abertawe eu carcharu am gyfanswm o dros 48 mlynedd fis diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu gynnal cyrchoedd fel rhan o'r ymgyrch i ddal gang County Lines yn Abertawe

Bydd yr actorion yn perfformio dwy olygfa wahanol ar Sgwâr y Frenhines sydd wedi eu sgriptio o ddigwyddiadau go iawn.

Fe benderfynodd yr heddlu ddefnyddio actorion a theatr stryd ar ôl cael cyngor y byddai'n apelio at bobl ifanc yn fwy na ffyrdd mwy traddodiadol o drafod materion fel yma.

Dywedodd y ditectif arolygydd Jon Russell o Heddlu Gogledd Cymru mai'r gobaith yw "hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r ecsbloetiaeth gudd sydd 'na o bobl fregus yn ein cymunedau".