Galw am ymestyn cynllun bwydo o'r fron ledled Cymru
- Cyhoeddwyd
Dylai cynllun sy'n ei gwneud yn haws i ferched fwydo o'r fron mewn mannau cyhoeddus yng Nghasnewydd gael ei ymestyn ledled Cymru, yn ôl bydwragedd.
Bydd staff bwytai yn derbyn hyfforddiant a bydd arwyddion mewn ffenestri yn ei gwneud yn glir bod busnesau'n ei gefnogi.
Gobaith y rhai tu ôl i'r cynllun yw y bydd yn annog rhagor o famau i fwydo o'r fron am gyfnod hirach, i leihau'r risg y bydd y babi dros eu pwysau pan yn tyfu fyny.
Nod cynllun Mae Croeso i chi Fwydo ar y Fron yw gwneud siopau, bwytai a mannau cyhoeddus eraill yn fwy croesawgar i famau sy'n bwydo o'r fron.
Pe bai'n cael ei gymeradwyo byddai rhestr ar gael o'r busnesau sy'n rhan o'r cynllun a byddai staff yn derbyn "sesiynau ymwybyddiaeth" ar y rhesymau mae merched yn penderfynu bwydo o'r fron.
Dywedodd Cyngor Casnewydd bod ffigyrau Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dangos bod cyfran uchel o famau'n bwydo o'r fron i ddechrau, ond bod y ffigwr yn gostwng yn sylweddol wedi i'r babi droi'n chwech i wyth wythnos oed.
Daeth cynllun bwydo o'r fron Llywodraeth Cymru i ben yn 2015, gyda chynghorau unigol yn gorfod penderfynu os oedden nhw am gyflwyno un eu hunain.
Dywedodd cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru, Helen Roger, y dylid rhoi un cynllun ar gyfer Cymru gyfan ar waith.
"Rydyn ni angen i fenywod allu bwydo o'r fron yn gyhoeddus heb ofni y bydd pobl yn cwyno," meddai.
"'Dyn ni'n gwybod bod nifer o ferched yn dal i'w weld yn anodd, fel tasai dim hawl i fwydo o'r fron yn gyhoeddus.
"Dyw ddim yn rhywbeth sy'n cael ei weld fel rhywbeth prif ffrwd, ble dylai fod."
Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae busnesau â chyfrifoldeb i sicrhau nad yw merched sy'n bwydo o'r fron tra'n cael gwasanaeth yn cael eu trin yn annheg, yn cynnwys gan gwsmeriaid eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae ymateb negyddol pan yn bwydo o'r fron yn gyhoeddus yn gallu rhwystro nifer o famau rhag gwneud hynny.
"Mae cyflwyno'r cynllun yng Nghasnewydd yn gyfraniad defnyddiol iawn i orchfygu hyn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod arolwg bwydo o'r fron wedi'i gwblhau a bod yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn ystyried argymhellion i gefnogi a chynyddu'r nifer sy'n gwneud hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2016
- Cyhoeddwyd5 Awst 2017