Leanne Wood: 'Angen i Plaid sefyll ysgwydd wrth ysgwydd'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae Leanne Wood wedi dweud bod angen i aelodau Plaid Cymru sefyll "ysgwydd wrth ysgwydd" os yw'r blaid am drechu Llafur.

Yng nghynhadledd wanwyn y blaid yn Llangollen, dywedodd Ms Wood mai ei phlaid hi oedd yr unig blaid a allai gynnig "llywodraeth arall" yng Nghymru.

Ond mae angen i'r blaid uno a chefnogi "rhaglen bositif" i ddangos i bleidleiswyr eu bod yn cynnig dewis arall.

Mae neges Ms Wood yn dod wedi i ddau o ASau Plaid, ddweud bod angen iddynt ail-sefydlu eu hunain fel plaid sy'n eistedd yn y tir canol, ac y dylent fod yn barod i weithio gyda'r Ceidwadwyr.

Cafodd ei haraith ei defnyddio fel apêl i geisio "adeiladu cenedl newydd".

'Tynnu i'r un cyfeiriad'

Roedd yr araith yn cynnwys cynnig o gyflwyno mwy o hawliau i ofal iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, gyda'r bygythiad o ddirwyon i fyrddau iechyd os nad ydynt yn gallu bodloni targedau amseroedd aros.

Dechreuodd araith Ms Wood gydag apêl i'r blaid "wrthsefyll grym" Llywodraeth y DU dros y pwerau sy'n dychwelyd o Frwsel wedi Brexit.

Ond daeth i ben gyda galwad ar y blaid i "gymryd y cam nesaf tuag at fod yn Llywodraeth yng Nghymru".

"Ni yw'r unig blaid sydd wedi gallu cynnig ymgeisydd arall ar gyfer swydd y prif weinidog yng Nghymru," meddai.

"Ond rydym angen rhaglen bositif ein hunain.

"Dim ond drwy dynnu i'r un cyfeiriad y gallwn gyflawni hyn, mae angen i ni sefyll ysgwydd wrth ysgwydd er mwyn cyrraedd lle yr ydym am fod."