Ailagor traeth Cei Newydd wedi llygredd fferm
- Cyhoeddwyd
Mae traeth yng Ngheredigion wedi ailagor ar ôl i slyri fferm lygru nant sy'n llifo i'r traeth.
Fe wnaeth swyddogion amgylcheddol o Gyngor Ceredigion gau Traeth Dolau yng Nghei Newydd am resymau iechyd a diogelwch y cyhoedd.
Roedd swyddogion yn annog pobl i gadw draw nes bod gwybodaeth bellach am y digwyddiad.
Ddydd Llun, dywedodd y cyngor bod y llygredd wedi ei glirio, a bod y traeth ar agor i'r cyhoedd.
'Effaith farwol'
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio'r digwyddiad a bellach wedi ymateb.
Dywedodd Aneirin Cox, llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Nid oes unrhyw bysgod marw wedi eu darganfod yn ystod ein harchwiliadau cychwynnol, ond mae slyri yn gallu cael effaith farwol ar fywyd afon.
"Mae sawl sampl wedi eu cymryd o'r afon er mwyn asesu a dadansoddi effaith y digwyddiad.
"Ni ddylai damweiniau fel hyn ddigwydd, ac rydym ni'n annog ffermwyr a thirfeddianwyr i ddilyn cyngor ynglŷn â sut i wasgaru gwrtaith a dŵr budr yn ystod y tywydd gwlyb."
Mae modd darllen y cyngor diweddaraf , dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2018