Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro am eiriad llythyr staff

  • Cyhoeddwyd
cyngor gwyneddFfynhonnell y llun, Google

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro i staff am gynnwys llythyr gafodd ei anfon at staff yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y llythyr gafodd ei anfon ar 26 Mawrth yn cynnwys cymal oedd yn rhybuddio staff y bydden nhw heb swydd ymhen deufis, onibai eu bod yn cytuno i delerau newydd.

Daw'r datganiad wedi i AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ddweud wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fod "naws bygythiol" i'r llythyr gwreiddiol.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, eu bod yn derbyn y feirniadaeth, a bod llythyr o ymddiheuriad yn y broses o gael ei anfon i staff.

Wrth ymateb, dywedodd undebau'r GMB, Unsain ac Unite eu bod yn condemnio'r cynnig ac wedi cofnodi anghydfod yn swyddogol gyda'r cyngor.

'Annerbyniol'

Roedd y llythyrau at staff yn rhoi dau ddewis: "Ticiwch y blwch i dderbyn y newidiadau, neu ticiwch y blwch i wrthod y newidiadau."

Ac mae'r ail ddewis yn dweud: "Peidio derbyn y cytundeb gwaith newydd. Rwyf yn deall bod hynny'n golygu y bydd fy nghyflogaeth yn dod i ben ar 30 Mehefin 2018 ac na fydd gennyf yr hawl i dâl diswyddo."

Roedd hefyd yn dweud pe bai staff yn derbyn y newidiadau yn "wirfoddol", ni fydd yn effeithio ar gyfrifoldebau rolau cyfredol, y radd cyflog sylfaenol, lleoliad gwaith na hyd y gwasanaeth parhaus.

Os na fyddai staff yn derbyn y newidiadau, neu'n methu ag ymateb i'r llythyr, "yna mae'n bwysig eich bod chi'n deall canlyniadau eich penderfyniad".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts bod yna "naws bygythiol" i'r llythyr gwreiddiol

Mewn datganiad ar y cyd ddydd Mercher, dywedodd yr undebau eu bod wedi cofnodi anghydfod yn swyddogol gyda'r cyngor, a'u bod yn "gwrthwynebu unrhyw leihad i delerau gwaith".

Ychwanegodd y datganiad bod "cosbi staff cyngor sydd ar gyflogau isel yn annerbyniol" a bod undebau'n "chwilio am ddeialog adeiladol gyda Chyngor Gwynedd".

'Naws bygythiol'

Dywedodd Ms Saville Roberts ar y Post Cyntaf ei bod yn poeni "bod yna naws bygythiol" yn y llythyr gwreiddiol gafodd ei anfon ar 26 Mawrth.

"Mae rhywun yn teimlo dros weithwyr y cyngor," meddai.

"Roeddech chi'n son am y 6,000 o bobl fydde wedi cael y llythyr yma jyst cyn y Pasg, yn dweud y byddai eu cyflogaeth nhw, bod na bosibiliad - roedd 'na ddau ddewis - ond un dewis oedd y byddai eu cyflogaeth nhw'n dod i ben ddiwedd Mehefin a hynny heb dâl diswyddo.

"Un o'r pethau dwi yn pwyso amdano fo, a dwi'n cael ar ddeallt y bydd yn digwydd heddiw 'ma, bod 'na lythyr i gael ei anfon at yr holl staff eto gan y cyngor sir... yn mynegi ymddiheuriad am natur geiriad y cymal hwnnw yn y llythyr sydd wedi peri pryder.

"Mae'r llythyr newydd, dwi'n gobeithio, yn sôn yn hytrach nag am golli swyddi, ond am gynnig cytundeb newydd i bobl erbyn y 30 Mehefin."

Ychwanegodd ei bod yn deall bod gan y cyngor ddewisiadau anodd i'w gwneud wrth geisio arbed arian mewn sir sy'n "hynod ddibynnol ar natur y swyddi hynny", ond mynodd nad oedd hynny'n newid y ffaith bod "angen trin y gweithlu gyda pharch".

'Pryderus'

Ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, fe soniodd y Cynghorydd Sion Jones am ei sioc o weld geiriad y llythyr: "Y sioc fwyaf oedd, yr hyn ddaru'r cyngor benderfynu yn y cyfarfod diwethaf oedd newid amodau gwaith y staff.

"Wnes i bleidleisio o blaid y newidiadau yma oherwydd doedden nhw ddim yn newidiadau sylweddol.

"Doedd o m'ond yn effeithio ar ganran bach iawn o staff y cyngor.

"Mae'r holl beth rwan wedi cael ei eirio mewn ffordd bygythiol dros ben, sy'n gwneud i staff i deimlo'n eithriadol o bryderus am eu dyfodol nhw yn y cyngor."

Ychwanegodd ei fod wedi cysylltu â'r swyddog a'i fod ef hefyd wedi cael cadarnhad y byddai yna ymddiheuriad i staff wedi penwythnos y Pasg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, bod y cyngor yn derbyn y feirniadaeth am y llythyr

Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod y cyngor "yn ymfalchio ym mhob un aelod o staff", a'u bod yn derbyn y feirniadaeth am y llythyr.

"Mae'r drefn broffesiynol adnoddau dynol - dydy o ddim yn fater i wleidyddion fel arfer i ymyrryd ag o. Mae yna faterion cyfreithiol eitha dyrus a dweud y gwir.

"Fe ddrafftiwyd y llythyr yma mewn ymgynghoriad gydag arbenigwyr yn y maes, ond, mae'n debyg bod ar arbenigwyr ddim wedi ystyried pwy oedd yn derbyn y neges.

"Mae'r neges yn amlwg yn un sydd wedi achosi pryder, ac mae yna lythyr yn mynd allan i ymddiheuro iddyn nhw, gan y pennaeth gwasanaeth, ac yn egluro beth yw'r drefn.

"Da' ni 'di cytuno ar ddrafft ac mae hwnnw'n cael ei baratoi rwan, a bydd yn mynd allan cyn gynted ag y medrwn ni.

"Holl fwriad y cynllun yma ydy arbed swyddi, felly mi roedd holl neges un o'r brawddegau yn gwbl gamarweiniol. Fyddwn ni ddim yn diswyddo neb."