Staff Cyngor Gwynedd: Derbyn newidiadau neu golli swyddi

  • Cyhoeddwyd
cyngor gwyneddFfynhonnell y llun, Google

Mae staff sy'n gweithio i Gyngor Gwynedd wedi derbyn llythyrau yn dweud fod yn rhaid iddynt gytuno i delerau ac amodau newydd i'w cytundebau neu wynebu colli eu swyddi ar ôl mis Mehefin.

Mae llythyr gan Bennaeth Cefnogaeth Corfforaethol yr awdurdod, Geraint Owen, yn amlinellu nifer o newidiadau i gytundebau staff a drafodwyd gyda'r undebau GMB, Unite ac Unsain.

Er hyn nid yw'r undebau wedi cytuno'n ffurfiol gyda'r newidiadau nac wedi pleidleisio ar y mater oherwydd bod undeb Unsain wedi dweud na fydd yn pleidleisio ar newidiadau sy'n arwain at ddirywiad mewn telerau ac amodau.

Ers 25 Ionawr, mae'r cyngor wedi gofyn am sylwadau ac adborth gan eu 6,000 staff, a chafwyd 111 o ymatebion. Roedd yr ymatebion yn gwrthwynebu'r newidiadau.

Er hynny mae'r cyngor wedi penderfynu gweithredu'r newidiadau o 1 Gorffennaf eleni.

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams wedi dweud ei fod yn "bryderus iawn o'r cynnig."

Y ddau ddewis

Yn y llythyr, mae staff yn cael dau ddewis: "Ticiwch y blwch i dderbyn y newidiadau, neu ticiwch y blwch i wrthod y newidiadau."

Ac mae'r ail ddewis yn dweud: "Peidio derbyn y cytundeb gwaith newydd. Rwyf yn deall bod hynny'n golygu y bydd fy nghyflogaeth yn dod i ben ar 30 Mehefin 2018 ac na fydd gennyf yr hawl i dâl diswyddo."

Mae'r llythyr hefyd yn dweud pe bai staff yn derbyn y newidiadau yn "wirfoddol", ni fydd yn effeithio ar gyfrifoldebau rolau cyfredol, y radd cyflog sylfaenol, lleoliad gwaith na hyd y gwasanaeth parhaus.

Os na fydd staff yn derbyn y newidiadau, neu'n methu ag ymateb i'r llythyr, "yna mae'n bwysig eich bod chi'n deall canlyniadau eich penderfyniad".

Rhai o'r newidiadau arfaethedig yw:

  1. Diddymu'r taliad ychwanegol o 1/5 yr awr sy'n cael ei dalu am weithio rhwng 8 a 10 gyda'r nos;

  2. Diwygio'r cynllun anfantais ariannol o 3 blynedd i a) Blwyddyn o 100% o amddiffyniadau b) Blwyddyn ar ôl amddiffyniad o 50%;

  3. Diwygio'r polisi ar gyfer ad-dalu costau teithio wrth ddefnyddio car personol i fusnes y cyngor;

  4. Lleihau'r taliad wythnosol am fod "ar ddyletswydd" y tu allan i oriau gwaith arferol, o £265.88 yr wythnos i £200 yr wythnos. (Ni ddylai'r newid hwn ddylanwadu ar y taliad o £159.53 yr wythnos a delir am "ar alwad");

  5. Bydd gweithredu'r newidiadau hyn yn ein galluogi i roi tâl am hanner diwrnod i staff, gan leihau'r didyniad tâl presennol o un a hanner diwrnod i un diwrnod. (Mae'r cyngor wedi ymrwymo i gael gwared ar yr un diwrnod sy'n weddill cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl).

Ffynhonnell y llun, Google

Wrth ymateb i'r datblygiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Ers Hydref 2015 mae'r cyngor wedi bod mewn trafodaethau efo'r undebau llafur ynghylch newidiadau arfaethedig i amodau gwaith lleol ein staff.

"Pan fydd y newidiadau yn cael eu derbyn byddent yn arwain at arbediad o £450,000 gyda traean o'r swm yma yn cael ei ail-fuddsoddi mewn termau ac amodau gwaith tra hefyd yn diogelu 20 swydd llawn amser o fewn y cyngor.

"Yn ystod y cyfnod hwn mae pob ymdrech wedi ei wneud i ddod i gytundeb torfol efo'r undebau, ac mae UNITE a'r GMB wedi cytuno i fynd i bleidlais efo'u aelodau ar y sail mai'r cynnig hwn yw'r pecyn gorau y gellid ei negodi o ystyried y pwysau sydd ar y cyngor i wireddu arbedion ariannol."

'Cymhleth'

Eglurodd y datganiad fod undeb Unsain wedi gwrthod caniatáu pleidlais i'r canghennau lleol, ac nad oedd felly'n bosib dod i gytundeb torfol gyda'r holl undebau a bod y cyngor felly wedi ysgrifennu at staff yn unigol.

"O'r 6,000 aelod o staff y cyngor, derbyniwyd cyfanswm o 111 o sylwadau mewn ymateb. Roedd y sylwadau hyn yn gwrthwynebu'r newidiadau - naill ai yn eu cyfanrwydd neu'n gwrthwynebu elfen ohonynt," meddai'r llefarydd.

"Rydym yn cydnabod fod y llythyr yn gymhleth ac yn cynnwys nifer o gymalau fyddai yn pryderu rhai unigolion.

"O ganlyniad, fel sy'n cael ei nodi yn y llythyr, rydym yn annog unrhyw aelod o staff sydd efo cwestiwn neu bryder am y broses i gysylltu â ni naill ai drwy e-bost neu ein llinell gymorth i staff."

Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams wedi dweud ei fod yn "bryderus iawn o'r cynnig"

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams: "'Rwy'n bryderus iawn o'r cynnig yma i weithwyr dderbyn y cytundeb yn wirfoddol pan mai'r unig ddewis amlwg arall yw colli eich swydd.

"Tra fy mod yn deallt ei bod yn ofynnol i'r Cyngor roi digon o rybydd pan fod newidiadau o'r math yma yn cael eu cyflwyno rwy'n credu yn gryf bod rhaid cymryd camau pellach cyn y fath fygythiad a hyn i swyddi.

"Rwy'n galw ar Gyngor Gwynedd a'r Undebau i ddod ynghyd ar fyrder er mwyn dod i gytundeb cynaliadwy sydd ddim yn peryglu bywoliaeth gweithwyr."

Mae'r BBC wedi gofyn i'r undebau am eu hymateb, ond doedd neb ar gael i wneud hynny ddydd Iau.