O arfordir Penfro i Arfordir Aur
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o bobl yn glwm i'w setiau teledu, radio neu gyfrifiaduron ac yn dilyn y cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn ninas Arfordir Aur, Awstralia rhwng 4-15 Ebrill.
Ond i un ferch o Boncath, Sir Benfro, mae'r gemau ond rhyw 10 munud i ffwrdd.
Mae Ceris James yn byw yn yr ardal ers bron i 20 mlynedd ac yma mae'n rhoi ei hargraffiadau am yr ardal a'r gemau.
Fi'n gweithio i gwmni sydd yn gyfrifol am yr holl newyddion traffic i 22 o orsafoedd radio dros Awstralia, a fi wrth fy modd yma.
Ond pan symudes i 'ma gynta, gymrodd hi tua naw mis i fi setlio achos oedd e mor wahanol i Aberteifi neu Boncath.
Roedd pob dim mor glitzy a lot o fenywod gyda facelifts ambiti'r lle. Ond cyn hir ddysgais i grafu dan yr wyneb a dyna pryd ddechreuais i wir setlio.
Fi'n chwarae saxophone mewn bands o gwmpas yr ardal, ac felly ddes i nabod lot o lefydd a lot o bobl da dros yr ardal i gyd, a gymerodd hi ddim yn hir i mi deimlo'n gartrefol.
Fi nawr fel local! Erbyn hyn rwy wedi priodi gyda ngŵr Phil, a ma' da fi dau o blant, Jac sy'n 14 a Rhian sy'n 16.
Mae'r ardal wedi newid lot ers i ni setlio 'ma gyntaf. Ar y dechrau, Surfers Paradise ac Ashmore oedd y draw mawr gyda'r traeth yn chwarae rhan fawr yn eu poblogrwydd.
Roedd yn ardal cul iawn o ran diwydiant, ond erbyn hyn mae diwydiannau eraill wedi datblygu, mae swyddfeydd high rise wedi codi ac mae Gold Coast nawr yn ddinas sydd â phob dim sydd ei angen ar ddinas cosmopolitan, modern.
Gyda'r gemau yma, rwy'n argoeli fydd hi'n brysur iawn rownd fan hyn dros y bythefnos nesaf achos mae'r holl ardal yn buzzan.
Mae'r countdown at y gemau yn ardal y Gold Coast wedi bod yn digwydd ers dros blwyddyn. Ond maen nhw wedi bod yn gweithio ar greu'r infrastructure ac adeiladu neu adnewyddu'r stadiymau a chanolfannau cystadlu eraill ers lot hirach.
Mae'r arian sydd wedi dod mewn i'r ardal yn huge... ac mae'n arian i adeiladu adnoddau fydd gyda ni a'n plant i'w defnyddio wedi'r gemau.
Mae'n fab, Jac, yn chwarae lot o bêl-fasged ac ers rhyw chwe mis nawr, mae ei dîm wedi bod yn chwarae mewn adeilad lle bydd y gymnnasteg yn cael ei gynnal yn y gemau. Felly mae ef a'i ffrindiau wedi manteisio'n barod ar adnoddau'r gemau.
Mae lot o fuddsoddiad wedi bod mewn adnoddau, ond hefyd wrth gwrs, mae arian wedi llifo mewn i'r ardal i gyflogi pobl i wneud y gwaith paratoi, ac felly mae'r gemau wedi bod yn hwb mawr i bawb.
Ond mae'n ddigwyddiad mawr, byd-eang ac felly mae pawb yn falch iawn ei fod wedi dod yma, deg munud lawr yr hewl, pryd gallai wedi mynd i unrhywle!
Ac mae'n really dechrau agosau nawr. Nos Lun wnaeth y baton gyrraedd Surfers Paradise a fi'n edrych ymlaen i fynd gyda'r teulu i weld y seremoni agoriadol heno yn Carrara Stadium.
Dyw pob dim ddim yn cael eu cynnal fan hyn. Mae lot o'r basketball yn Cairns a Townsville lan yn y gogledd ac mae rhai o'r campau mynd i fod lan yn Brisbane, ond mae'r rhan fwyaf o'r gemau'n cael eu cynnal yma ar y Gold Coast.
Mae wedi bod yn bach o sialens i gael tocynnau, ond yn ddigon rhyfedd y rhai haws i gael oedd y rhai i'r seremoni agoriadol. Dries i gael tocynnau i'r pêl-fasged a'r pêl-foli, ond dim lwc.
Ond rwy wedi llwyddo i gael tocynnau i ffeinal y 4 x 100 metre relay yn y stadiwm ar y diwrnod olaf ond un, ac i ffeinal y gymnasteg, felly fi wedi gwneud yn ocê.
Dwi ddim yn gallu gweld fi'n symud nôl i Gymru. Wrth reswm rwy'n gweld eisiau teulu a ffrindiau... a cwrw da! Dyw Fosters ddim cweit yn gwneud hi... rho peint o Felinfoel i mi unrhyw bryd.
Ond mae'r Gold Coast yn lle amazing! Alla'i ddal bws a tram tu fas y drws ac mewn chwarter awr alla'i fod yng nghanol dinas brysur, neu ar un o draethau gorau'r byd... traethau alla'i fwynhau y rhan fwyaf o'r flwyddyn achos fod y tywydd wastad yn braf.
Un peth rwy am y plant i brofi. Dy' nhw erioed wedi gweld eira. Dyna fy nymuniad pennaf, eu bod nhw un dydd yn medru ymweld â Chymru a gweld eira!