Rhybudd bod baw ci yn achosi i wartheg erthylu lloi

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg

Gyda'r gwanwyn ar droed, mae ffermwyr yn apelio ar berchnogion cŵn i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid wrth fynd nhw am dro yng nghefn gwlad.

Ymhlith y pryderon mae afiechyd sy'n achosi i wartheg erthylu lloi.

Yn Sir Ddinbych yn ddiweddar bu'n rhaid i un fferm ddifa gwartheg ar ôl iddyn nhw ddal yr haint o bosib trwy'r silwair.

Yn sgil hynny, ar wefan gymdeithasol fe apeliodd John a Stephen Tudor o Fferm Gwerclas ger Cynwyd am gydweithrediad aelodau o'u cymuned leol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o lwybrau ger Fferm Gwerclas ble mae pobl yn mynd â'u cŵn am dro

"Mae nifer o'n gwartheg wedi erthylu yn hwyr yn eu beichiogrwydd. Mae profion wedi dangos mai 'Neospora Caninum' ydy'r achos," medd y nodyn ar Facebook.

"Yn ôl y milfeddyg, y tarddiad tebygol ydy silwair wedi ei heintio gan faw cŵn. Does dim brechiad na gwellhad i'r cyflwr.

"Yn anffodus, rydym wedi gorfod difa'r gwartheg gan y byddan nhw'n parhau i erthylu bob blwyddyn.

"Does gennym ddim problem efo pobl yn mynd â'u cŵn am dro ar hyd y llwybrau ac rydym yn gwybod bod rhai yn glanhau ar ôl eu cŵn, felly dyma apêl i'r rhai sydd ddim yn gwneud."

'Achosion cyffredin'

Dywedodd y milfeddyg Dyfrig Williams, a brofodd y gwartheg yn Gwerclas: "O fewn y cyhoedd mae'n rhywbeth does neb yn gwybod llawer amdano.

"Pan mae baw ci yn ffeindio ei ffordd mewn i ddŵr neu fwyd gwartheg, mae'r gwartheg beichiog yn medru erthylu.

"Mae'n un o achosion mwyaf cyffredin o wartheg yn erthylu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dyfrig Williams nad yw'r cyhoedd yn ymwybodol am effaith baw ci ar wartheg

Wrth apelio ar y cyhoedd i fod yn gyfrifol, dywedodd llefarydd o undeb NFU Cymru: "Mae hyn yr un mor bwysig a chlirio ar ôl eich ci mewn parciau cyhoeddus.

"Ble mae'n bosib, mae'n well cadw eich ci oddi wrth fwyd a chafnau dŵr da byw gan y gall ledu fel yna hefyd.

"Felly pan fyddwch chi allan, cliriwch ar ôl eich ci os gwelwch yn dda. Mae'n gwneud cefn gwlad yn lle gwell i bawb sydd allan am dro ac i'r holl anifeiliaid sy'n byw yno."