AS Plaid Cymru yn annog merched i 'fynnu cyflog teg'
- Cyhoeddwyd
Mae AS Plaid Cymru yn annog merched i "fynnu cyflog teg" wrth i fusnesau ddatgelu manylion y bwlch sydd rhwng cyflogau merched a dynion.
Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts bod y cyhoedd "eisoes yn gwybod fod yna fwlch cyflog rhwng y rhywiau" ac mae'n rhaid "gorfodi cyflogwyr i daclo'r mater".
Gallai busnesau wynebu dirwyon trwm petaent yn methu â chofnodi manylion unrhyw wahaniaeth rhwng yr hyn sy'n cael ei dalu fesul awr i ddynion a merched.
Mae gan gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o bobl tan hanner nos, nos Fercher i gyhoeddi cyfraddau talu.
Yn gynharach yn yr wythnos fe lansiodd aelodau seneddol o bob plaid ymgyrch 'Talwch fi hefyd'.
Mae'r ymgyrch yn annog merched i siarad â chydweithwyr a phenaethiaid am yr angen i fynd i'r afael â bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Mae merched yn cael eu hannog i ymuno ag undeb ac i sefydlu rhwydwaith i ferched sy'n gweithio.
'Digon yw digon'
Dywedodd Ms Saville-Roberts: "Pwynt hyn oll yw sicrhau fod cyflogwyr yn ymwybodol o'r ffaith ein bod ni'n gwylio ac yn disgwyl llawer mwy na chyhoeddi ystadegau yn unig.
"Mae'n amlwg yn barod fod menywod yn cael eu talu yn llai na dynion ond yr hyn sydd ei angen nawr yw i gyflogwyr gael eu gorfodi i wneud newidiadau.
"Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch hon yn annog menywod ledled y wlad i leisio'u barn, i drafod gyda'u cyflogwyr ac i ddweud, digon yw digon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017