Galw am well amddiffyn yng Ngharchar Berwyn
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am well hyfforddiant ac arfau amddiffyn i swyddogion carchar wedi digwyddiadau yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam dros y penwythnos.
Bu farw un carcharor ac mewn digwyddiad arall bu'n rhaid i ddau swyddog carchar gael triniaeth ysbyty.
Agorodd Carchar Berwyn ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Mae plismyn wedi dweud nad ydynt yn credu bod amgylchiadau amheus ynglyn â marwolaeth y carcharor, Luke Jones.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau bod yr heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiadau yn y carchar yn Wrecsam dros y penwythnos.
Chwistrell bupur
Yn y cyfamser mae cadeirydd Cymdeithas y Swyddogion Carchardai wedi galw ar i bob swyddog gael chwistrell bupur i'w amddiffyn.
Yn ôl Mark Fairhurst, mae'r chwistrell Pava yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn pedwar carchar ac y mae'n dweud bod nifer yr ymosodiadau yn y carchardai hynny wedi gostwng.
Dywedodd: "Mae'r hyn ddigwyddodd yng Ngharchar Berwyn dros y penwythnos yn dangos bod angen i bob swyddog carchar gael Pava."
Yr wythnos ddiwethaf fe ddatgelodd Newyddion 9 fod nifer yr ymosodiadau yng ngharchardai Cymru wedi codi - o ryw wyth gant o ddigwyddiadau dair blynedd yn ôl i dros fil dau gant y flwyddyn ganlynol.
Yn naw mis cynta'r llynedd roedd 34 o ymosodiadau yng Ngharchar Berwyn.
Roedd Dafydd Parri'n arfer cadeirio bwrdd monitro carchar Caerdydd - mae'n dweud bod digwyddiadau o'r fath yn fwy prin adeg ei gadeiryddiaeth ef bron i 20 mlynedd yn ôl.
Wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau mae Bwrdd Monitro Carchar Berwyn wedi dweud y byddan nhw'n cyfeirio at ddiogelwch yn eu hadroddiad blynyddol ym mis Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2018