Ymestyn llinell ffôn iechyd 111 dros Gymru gyfan

  • Cyhoeddwyd
Galwad
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaeth i Gymru yn cynnwys cyfran uwch o staff clinigol

Bydd y llinell gymorth iechyd 111, sydd wedi bod ar brawf yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin, yn cael ei ymestyn i Gymru gyfan.

Cafodd y prawf ei gynnal i weld pa mor ymarferol oedd cyfuno Galw Iechyd Cymru a'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau.

Mae'r gwasanaeth yn un am ddim ac yn darparu cyngor a mynediad at driniaethau.

Mae'n cael ei reoli gan dîm o staff proffesiynol fydd yn helpu trin defnyddwyr neu eu cyfeirio at y gwasanaeth iechyd cywir ar gyfer eu hanghenion.

Bydd y gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Er bod gwasanaethau tebyg ar gael mewn rhannau eraill o'r DU, bydd y gwasanaeth i Gymru yn cynnwys cyfran uwch o staff clinigol.

Ymateb ffafriol

Yn ystod chwe mis cynta'r cyfnod prawf, fe gafodd y gwasanaeth dros 71,000 o alwadau.

Dywedodd 95% o'r bobl wnaeth ymateb i arolwg eu bod un ai'n fodlon neu'n fodlon iawn gyda'r gwasanaeth.

Hefyd, gwelwyd gostyngiad o 1% yn y nifer aeth i'r adran argyfwng yn Abertawe Bro Morgannwg yn ystod yr un cyfnod.

Wrth gyhoeddi bod y cynllun yn cael ei ymestyn, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: "Mae'n galonogol iawn gweld gwerthusiad sy'n awgrymu cysylltiad rhwng y gwasanaeth 111 a'r gostyngiad yn y nifer sy'n cael eu cludo mewn ambiwlans.

"Mae hefyd yn glir o'r adborth y bu'r gwasanaeth hwn yn werthfawr wrth gefnogi cleifion a helpu'r gwasanaeth iechyd i drin cleifion sydd ag anghenion gofal brys yn fwy effeithiol.

"Bydd y gwasanaeth 111 yn helpu pobl i gael y gwasanaethau mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, ar yr adeg gywir ac yn y man cywir."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod gwasanaeth ffôn 111 wedi profi'n un gwerthfawr

Ychwanegodd rheolwr ardal Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros 111/Galw Iechyd Cymru, Chris Powell: "Rydyn ni'n falch iawn o'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y gwasanaeth 111 a'r adborth calonogol rydyn ni wedi'i gael yn ystod camau cychwynnol y cynllun peilot.

"Mae pobl sy'n byw yn ardaloedd Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin wedi bod yn manteisio ar wasanaethau 111 ers sawl mis erbyn hyn, a chyn hir bydd modd i bawb yng Nghymru ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

"Mae hyn yn gam arall tuag at ddarparu gofal brys mewn ffordd fwy modern, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant 111 hyd yma."