James Ball yn ennill medal gyntaf Cymru yn y Gemau
- Cyhoeddwyd

Fe dderbyniodd James Ball ei fedal gyda'i dywysydd Peter Mitchell
Mae Cymru wedi ennill eu medal gyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad eleni, gyda James Ball yn dod yn ail yng nghamp seiclo i bobl â nam ar eu golwg.
Fe wnaeth Ball, 26, a'i dywysydd Peter Mitchell dorri record Gemau'r Gymanwlad yn y ras 1,000m yn erbyn y cloc, dim ond iddi gael ei thorri eto funudau'n ddiweddarach.
Neil Fachie o'r Alban enillodd yr aur gydag amser o 1:00.065, gyda Brad Henderson o Awstralia'n drydydd.
Cafodd Ball ei fagu ym Mhont-hir, Torfaen, ac mae'n cystadlu yng nghategori pobl ddall neu sydd â nam ar eu golwg, ac felly'n cystadlu ar feic tandem tra bo person arall yn llywio.