Pont Tywysog Cymru: Yr ymateb i'r ail-enwi
- Cyhoeddwyd
Daeth cyhoeddiad ar 5 Ebrill y bydd ail bont Hafren yn cael ei hail-enwi yn Bont Tywysog Cymru.
Mae'r cyhoeddiad wedi achosi ymateb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol o amryw gyfeiriad...
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r academydd Richard Wyn Jones, dolen allanol yn credu fod yr enw newydd wedi ei ddewis er mwyn "ein hatgoffa fod Cymru wedi cael ei 'rhoi' i etifedd coron Lloegr pan oedd yn 9 oed".
Mae'r blogwraig Llio Angharad hefyd yn anhapus:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns AS yn cydnabod fod rhai pobl yn anhapus â'r penderfyniad ond meddai ar raglen Good Morning Wales y BBC: "Rwy'n gwybod fod y gymuned ehangach, y mwyafrif tawel yn cyd-fynd yn llwyr â'n penderfyniad."
Dywedodd hefyd ei fod yn "gwbl hyderus mai hwn yw'r peth iawn i wneud".
Diffyg ymgynghori
Mae nifer yn beirniadu Llywodraeth y DU am beidio ag ymgynghori â'r cyhoedd i ofyn beth oedd dewis y bobl, gydag Alun Cairns yn cael ei feirniadu'n chwyrn am ei ran yn y broses:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Ed Gareth Poole yn cyfeirio at sut aeth Llywodraeth yr Alban ati i ail-enwi pont newydd sy'n croesi'r Forth.
Cafwyd miloedd o awgrymiadau a degau ar filoedd o bleidleisiau er mwyn dewis yr enw Queensferry Crossing yn 2013, a agorwyd y llynedd.
Ar Twitter, meddai, dolen allanol: "Dyma sut mae ail-enwi pontydd. Rydych chi'n gofyn i'r cyhoedd i feddwl ac i gynnig syniadau, yna cael ymgyrch gyhoeddusrwydd trawiadol i ysbrydoli pobl i bleidleisio dros yr awgrymiadau."
Soniodd Carolyn Hitt, dolen allanol ar BBC Radio Wales iddi awgrymu y dylai'r bont gael ei henwi yn CROESO. Cafodd arddeall wedyn gan Paul Flynn AS mai dyna oedd awgrym y cyhoedd pan gafodd y bont ei hagor gyntaf.
Mae Liam Owen, dolen allanol yn credu fod hwn yn debyg iawn i'r ffrae y llynedd yn dilyn cynlluniau Llywodraeth Cymru i godi cylch haearn yn Y Fflint.
Bu tro pedol ym mhenderfyniad y llywodraeth yn dilyn gwrthwynebiad nifer oedd yn dwyn tebygrwydd rhwng y cerflun â'r "cylch haearn" o gestyll a gododd Lloegr er mwyn concro Cymru.
Digon o drafod ar Taro'r Post
Soniodd Alun Cairns am ei resymau dros ddewis yr enw, a'i fod yn deyrnged i Dywysog Cymru am ei holl waith gydag elusennau yng Nghymru ac am ei berthynas arbennig gyda Chymru.
Mae'n ddewis "cwbl addas" meddai, ac yn ffordd i "uno dwy wlad a dwy genedl at ei gilydd".
Nododd hefyd ei fod yn gobeithio y bydd pawb yn dangos parch i'r rôl a'r gwaith mae'r Tywysog yn ei wneud yn y gymuned, drwy dderbyn yr enw newydd.
Roedd Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd yn credu fod y newid enw yn "ddi-bwynt a di-bwrpas" a'i fod yn "syniad hollol wleidyddol". Does yna neb wedi cael siawns i drafod, meddai, felly dim ond heddiw mae'r drafodaeth yn dechrau.
Roedd Vaughan Williams yn cwestiynu pam nad oedd Alun Cairns wedi mynd â'r rhesymeg dros yr ail-enwi gerbron y cyhoedd yn y lle cyntaf, a nodi ei fod yn ddiffyg democratiaeth sylfaenol.
Awgrymiadau am enwau eraill
Wrth gwrs, mae nifer o awgrymiadau am enwau eraill, gyda thywysogion eraill Cymru yn bennaf ar y rhestr - y rhai o'r oes a fu a'r rhai mwy cyfredol...
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Er fod gan ambell un awgrym ychydig llai ymarferol, gyda Bridgey McBridgeFace yn cael ei gynnig fwy nag unwaith, a'r fersiwn ychydig mwy Cymraeg, Ponty ap Pontface, hefyd yn codi ei ben.
A beth am awgrym ysbrydoledig y newyddiadurwr Ciaran Jenkins - Itsy Bridgey Teeny Weeny Gusty Toll Free Route to Cymru, dolen allanol...?!