Cyrff Cei Newydd: Enwi dyn a dynes yn lleol

  • Cyhoeddwyd
Cei NewyddFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mandy Mousley a Jacob Davies

Mae cyrff dau o bobl gafodd eu canfod yng Ngheredigion, wedi eu henwi'n lleol fel Mandy Mousley a Jacob Davies.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio ar ôl i'r cyrff gael eu canfod ar lwybr yr arfordir ger Cei Newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y marwolaethau yn parhau fel rhai heb esboniad, ond wedi i archwiliadau post mortem gael eu cynnal ddydd Gwener mae'r heddlu nawr yn dweud nad yw amgylchiadau'r marwolaethau yn amheus.

Yn ôl Craig Duggan, gohebydd BBC Cymru yn y canolbarth, mae pobl yr ardal wedi dweud "fod y ddau yn adnabyddus yn lleol a'u teuluoedd wedi byw yn y pentref erioed".

"Mae blodau wedi eu gadael y tu fas i dŷ yn y pentre'."

Cafodd y cyrff eu canfod tua 20:00 nos Fercher 4 Ebrill, wedi i'r heddlu dderbyn adroddiadau yn gynharach yn y dydd fod dyn a menyw ar goll.

Mae teuluoedd y ddau wedi cael gwybod.

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed Powys: "Cafodd archwiliadau post mortem eu cynnal, ac er bod achos y marwolaeth yn parhau heb esboniad, nid ydym yn credu fod yr amgylchiadau yn amheus.

"Rwy'n apelio ar unrhyw un oedd yn cerdded ar lwybr yr arfordir ger Fferm Coybal, yn ymyl Cei Newydd, neu a oedd ar neu yn y dŵr yn yr ardal rhwng 18:00 a hanner nos ar nos Sul 1 Ebrill i siarad gyda'r heddlu drwy ffonio 101."