Diffoddwyr yn cael eu galw i dân gwyllt mawr yn Sir Ddinbych

Swyddog tanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw am 08:15 fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio â thân mawr mewn coetir yng ngogledd Sir Ddinbych ddydd Sul.

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub wybod am y digwyddiad oddi ar Ffordd Dyserth ger y Rhyl am 08:15.

Ar un adeg, roedd criwiau o Brestatyn, Bae Colwyn a'r Rhyl yn bresennol.

Cafodd dwy uned sy'n arbenigo mewn tanau gwyllt eu galw o Abergele hefyd.

Er bod llai o griwiau yno erbyn hyn mae'r digwyddiad yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.