Tarw Scotch: Merched Beca'r cymoedd
- Cyhoeddwyd
Ar 6 Ebrill 1835, cafodd Edward Morgan, un o arweinwyr y Tarw Scotch, ei grogi yng Ngharchar Mynwy.
Efallai bod rhai ohonoch yn gyfarwydd â'r enw o un o ganeuon y grŵp gwerin Bwchadanas o'r '80au, ond roedd y Tarw Scotch gwreiddiol yn ddraenen yn ystlys rheolwyr gweithfeydd am flynyddoedd ar ddechrau'r 1800au yng nghymoedd Mynwy.
Does neb yn gwybod yn iawn pryd ddechreuodd yr ymgyrch ond yn 1822 mae enghreifftiau cadarn o'r grwpiau'n gweithredu yn ystod streic Pwll y Blaenau, er fod rhai'n credu ei bod hi'n bosib fod ymgyrchoedd tebyg wedi bodoli ers 1808.
Celloedd lleol
Criwiau o weithwyr, efallai cnewyllyn o ryw ddeg i ugain ym mhob tref, pentref neu ardal, oedd y Tarw Scotch. Roedd gan bob grŵp arweinydd, y Tarw, ac er yn annibynnol o'i gilydd, mi roeddynt hefyd yn cydlynu eu hymgyrchoedd.
Y gred yw bod gweithwyr wedi dechrau ymgasglu mewn ymateb i reolwyr gweithfeydd yn manteisio ar y lif o weithwyr o Iwerddon, Yr Alban a Lloegr wnaeth dyrru i'r ardal i chwilio am waith yn y pyllau glo oedd yn cael eu sefydlu ar y pryd.
Roedd bodolaeth gymaint o weithwyr yn golygu bod rheolwyr yn medru gwneud yr hyn a fynent, ac felly yn diswyddo gweithwyr, neu eu cyflogi ar delerau gwael.
Roedd y Tarw Scotch fel arfer yn gweithredu yn erbyn unigolion ac is-reolwyr y gweithfeydd, neu weithwyr eraill oedd yn tanseilio hawliau gwaith neu'n torri streic.
Roedd y grwpiau'n gweithio mewn ffordd syml iawn.
I ddechrau byddai rhybudd yn cael ei hoelio i ddrws rheolwr neu dorrwr streic oedd wedi tramgwyddo. Roedd y rhybudd wedi ei ysgrifennu mewn coch, mewn gwaed anifail yn ôl y sôn, ac yn annog perchennog y tŷ i newid ei ffordd neu fyddai'r Tarw Scotch yn galw heibio.
Os na fyddai hyn yn digwydd, yna byddai grŵp bach o bobl, wedi'u gwisgo mewn crwyn anifeiliaid a'u hwynebau wedi lliwio'n ddu, yn galw heibio yn hwyr rhyw noswaith, yn dinistrio eiddo'r perchennog ac yn gadael symbol pen tarw ar y drws.
Dinistrio'r Truck Shops
Roeddynt hefyd yn weithgar iawn yn dinistrio'r Truck Shops, sef siopau arbennig oedd yn cael eu sefydlu gan reolwyr gweithfeydd glo a haearn, a'r unig le gallai gweithwyr wario tocynnau oedd yn cael eu talu iddyn nhw am eu gwaith.
Yn hyn o beth, roedd y Tarw Scotch yn llwyddiannus a lledaenodd y straeon am eu gweithredoedd i'r fath raddau, bod pobl fel arfer yn ymateb yn syth ar ôl y rhybudd cyntaf, a prin oedd yn rhaid symud i'r ail rybudd.
Prif bwrpas y grŵp oedd dinistrio eiddo, ac felly byddai dodrefn yn cael eu torri a dillad perchennog y tŷ yn cael eu llosgi yn y tân, ond fel arfer, ni fyddai testun y rhybudd, na'i deulu, yn cael ei frifo.
Dechrau'r diwedd i'r Tarw
Ond un eithriad amlwg oedd achos Edward Morgan, pan gafodd Joan Thomas, gwraig i löwr, ei lladd yn ystod un ymweliad ac o ganlyniad crogwyd Edward a charcharwyd dau arall.
Roedd cefnogaeth leol gref i'r grwpiau a dyma pan gafodd cyn lleied o'r aelodau ac arweinwyr eu dal. Ond mae eraill wedi beirniadu'r ymgyrch fel dim byd ond criw o ladron oedd am greu trwbl.
Beth bynnag yw'r gwirionedd, does dim amheuaeth fod gweithredoedd y Tarw Scotch wedi tanlinellu'r anghyfiawnder roedd gweithwyr yn ei ddioddef ar y pryd, ac wedi bod yn gam cyntaf ansicr tuag at ffurfio sefydliadau mwy swyddogol a derbyniol i weithredu ar ran y gymuned weithiol.