Tystiolaeth 'helwyr pedoffiliaid' mewn 19 achos yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Helwyr PedoffiliaidFfynhonnell y llun, IStock

Mae'r BBC yn deall fod dau draean o achosion sy'n ymwneud â meithrin perthynas gyda phlentyn dros y tair blynedd ddiwethaf yng Nghymru wedi defnyddio tystiolaeth gan "helwyr pedoffiliaid".

Mae ymchwiliad gan BBC Yorkshire yn dangos fod heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi defnyddio tystiolaeth gan helwyr i gyhuddo 137 o bobl yn 2017.

Yng Nghymru, roedd 31 o achosion ble wnaeth yr heddlu ddwyn achos o feithrin perthynas gyda phlentyn rhwng 2015-2017.

Yn 19 o'r achosion fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio tystiolaeth gan helwyr pedoffiliaid.

'Ffordd ymlaen'

Fe wnaeth Heddlu Gwent ddefnyddio tystiolaeth o'r fath mewn pob achos ond un.

Dywedodd llefarydd bod y llu yn "dibynnu ar gymorth y cyhoedd i atal a dod o hyd i droseddu" a bod "gweithio'n agos gyda chymunedau'n ffordd hanfodol o gasglu gwybodaeth".

Daw hyn wedi i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y llu, Jeff Cuthbert ddweud y llynedd mai "dyma'r ffordd ymlaen", os yw wedi ei drefnu'n iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert mai'r helwyr pedoffiliaid yw'r "ffordd ymlaen" os yw'n cael ei wneud yn gywir

Nid yw'r ffigyrau yn dangos pa mor aml wnaeth yr achosion arwain at gael diffynyddion yn euog.

Llynedd fe wnaeth un achos arwain at dair blynedd o garchar i ddyn wnaeth geisio cwrdd â merch ifanc yng Nghasnewydd.

Yn yr un mis, fe wnaeth barnwr yng Nghaerdydd feirniadu'r helwyr pedoffiliaid a'u cyhuddo nhw o gyflwyno tystiolaeth gamarweiniol ar ôl i achos yn erbyn troseddwr rhyw honedig ddymchwel.

Dywedodd y Barnwr Crowther: "Mae hyn yn tanlinellu pam dylai ymchwiliadau troseddol gael eu cynnal yn ofalus a manwl gan y rhai sy'n gymwys ac sydd wedi eu hyfforddi i'w gwneud."

Ystadegau Heddluoedd Cymru

Dros y tair blynedd diwethaf cafodd 20 achos eu cofnodi gan Heddlu Gwent, gyda thystiolaeth yr helwyr yn cael ei ddefnyddio 11 o weithiau.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gofnodi 54 achos, gan ddwyn achos yn erbyn 15.

Ni wnaeth Heddlu Gogledd Cymru na Heddlu Dyfed-Powys ddefnyddio tystiolaeth gan unrhyw "helwyr pedoffiliaid" yn y tair blynedd diwethaf.

Dim ond chwe achos o feithrin perthynas gyda phlentyn wnaeth Heddlu Gogledd Cymru eu cofnodi, gan ddwyn achos yn erbyn un heb ddefnyddio tystiolaeth helwyr.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-powys gofnodi 82 achos, gan ddwyn achos yn erbyn un.

Dros Gymru a Lloegr, fe wnaeth 26 allan o'r 43 heddlu ymateb i gais y BBC am wybodaeth.

'Gwell yn nwylo'r heddlu'

Dywedodd llefarydd ar ran yr NSPCC: "Tra bod gennym ni gydymdeimlad gyda'r bobl sy'n pryderu am gamdrinwyr amheus, rydym yn credu fod adnabod y troseddwyr ac ymchwilio'r troseddau yn well yn nwylo'r heddlu.

"Pan mae aelodau o'r cyhoedd yn cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain, mae risg o beryglu gwaith yr heddlu a'r broses gyfreithiol, neu arwain at bobl ddieuog yn cael eu targedu.

"Gallai hyn i gyd arwain at risg i fwy o blant.

"Os oes unrhyw un yn pryderu ynglŷn â diogelwch plentyn, y ffordd orau iddyn nhw helpu yw dweud wrth yr heddlu."