Marathon newydd Casnewydd 'gwerth £1.1m i'r economi'
- Cyhoeddwyd
Mae gan farathon newydd yng Nghasnewydd y potensial i greu £1.1m i economi'r ardal dros y tair blynedd nesaf, yn ôl adroddiad i gyngor y ddinas.
Mae tua 10,000 o redwyr wedi cofrestru i redeg Marathon ABP Casnewydd Cymru neu'r ras 10K sy'n cael ei chynnal ar yr un diwrnod ar 29 Ebrill.
Mae'r trefnwyr, Run 4 Wales, yn amcangyfrif y bydd torf o 20,000 o bobl yn gwylio'r ras, fydd yn hwb i fusnesau'r ddinas.
Yn ôl yr adroddiad, mae'r trefnwyr yn gofyn i Gyngor Casnewydd gyfrannu £90,000 tuag at y ras nes y bydd yn gallu ei ariannu ei hun.
Maen nhw'n disgwyl y byddan nhw'n gallu gwneud hynny erbyn 2020, ond nes hynny maen nhw hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyfrannu £120,000.
Mae'r adroddiad yn dweud: "Mae'r cytundeb am gefnogaeth dros dair blynedd yn unig, ac wedi hynny dylai'r digwyddiad allu ariannu ei hun a bod yn gynaliadwy heb yr angen am nawdd cyhoeddus."
Bydd cabinet y cyngor yn cwrdd i drafod y cais y trefnwyr am arian a chefnogaeth swyddogion yr awdurdod yr wythnos nesaf.
Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman ei fod yn gobeithio y bydd y marathon a'r ras 10K yn dod yn "ddigwyddiad parhaol" yn y calendr chwaraeon yng Nghymru.
"Mae dinas Casnewydd a'r ardal o'i chwmpas yn darparu tirwedd perffaith ar gyfer ras i redwyr o bob gallu," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017