Côrdydd yn dod i'r brig yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
- Cyhoeddwyd
Mae Côrdydd wedi cipio gwobr Côr yr ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Cafodd y côr o Gaerdydd y wobr am y perfformiad gorau ar ôl dod i'r brig yng nghystadleuaeth y Côr Cymysg Digyfeiliant a'r Côr Agored gyda chyfeiliant.
Llwyddiant i Gymru
Mae'r ŵyl wedi ei chynnal eleni rhwng 3-8 o Ebrill yn Letterkenny, Iwerddon a'r bwriad yw hyrwyddo cerddoriaeth, iaith, dawns a chwaraeon y chwe chenedl Geltaidd.
Yn ystod yr wythnos mae nifer o ddigwyddiadau fel gweithdai dawns ac iaith, sesiynau stori a pherfformiadau wedi'u cynnal.
Nid Côrdydd oedd yr unig gôr o Gymru i gael llwyddiant.
Fe wnaeth Eryrod Meirion o ardal Llanuwchllyn hefyd gipio'r wobr gyntaf yng nghategori'r Côr Meibion a'r Côr Gwerin ac fe ddaethont yn ail yn y gystadleuaeth Côr Agored gyda chyfeiliant.
Cafodd Côr Dre, Caernarfon y brif wobr am y Côr Gwledig ac ail yn y Côr Gwerin.
Roedd Hogia'r Ddwylan yn ail yn y gystadleuaeth i gorau meibion ac fe enillodd Côrnarfon y wobr am gân orau yr ŵyl gan gôr nad oedd wedi ennill gwobr.
Dywedodd arweinydd Côrdydd, Huw Foulkes ei bod hi'n anrhydedd ennill y brif wobr ac y byddan nhw yn ymweld â'r ŵyl eto yn y dyfodol.
"Dyma'r tro cynta i ni fel côr fynd i'r Ŵyl ac mae'n fraint cipio'r brif wobr yn erbyn cymaint o gorau arbennig.
"Ond roedd yr Ŵyl yn llawer mwy na'r cystadlu ac yn sicr, mi wnaethon ni'n fawr o'r elfen gymdeithasol hefyd.
"Roedd yr awyrgylch a'r mwynhau ar ôl y cystadlu gyda'r corau eraill yn rhywbeth wnawn ni gofio am amser hir iawn.
"Dwi'n falch iawn o'r criw - nid yn unig am fod yn llwyddiannus, ond am fod yn gymdeithas o ffrindiau gwych! Rydan ni gyd yn edrych 'mlaen at y trip nesa'n barod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018