Enillwyr Cân i Gymru'n olaf yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

  • Cyhoeddwyd
Ceidwad y Gân yn perfformio
Disgrifiad o’r llun,

Ceidwad y Gân yn perfformio 'Cofio Hedd Wyn' yn Letterkenny, nos Iau

Mae'r band Ceidwad y Gân, oedd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd nos Iau, wedi methu cipio'r brif wobr.

Roedd y grŵp ifanc o ardal Ruthun yn perfformio cân fuddugol Cân i Gymru 2018, Cofio Hedd Wyn, fel rhan o gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau.

Am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth roedd hi'n gyfartal, gydag Iwerddon a Chernyw yn dod i'r brig eleni.

Ond fe benderfynodd y prif feirniad roi'r wobr i'r gân oedd yn cael ei pherfformio gan y Gwyddelod.

Fe ddaeth Ceidwad y Gân yn olaf yn y gystadleuaeth.

Roedd y gystadleuaeth, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe gwlad Geltaidd, yn cael ei chynnal yn Letterkenny, Iwerddon.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfansoddwr y gân, Erfyl Owen (ail o'r chwith), gyda'r grwp Ceidwad y Gân

Er nad oedd y criw yn fuddigol nos Iau, Cymru yw'r wlad sydd wedi gwneud orau yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd, gan gipio'r brif wobr 14 o weithiau.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y gystadleuaeth Cân Ryngwladol Orau, bydd y grŵp yn perfformio ar nos Wener fel rhan o'r noson Gymreig.

Mae modd dilyn y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Ban Geltaidd ar eu tudalen Facebook, dolen allanol swyddogol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y perfformwyr buddugol yn cynrychioli Iwerddon