Beirniadu'r colofnydd Liddle am ei sylwadau am Gymru

  • Cyhoeddwyd
Tywysog CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y penderfyniad i ailenwi'r bont ei gymeradwyo gan y frenhines a'r Prif Weinidog, Theresa May

Mae colofnydd y Sunday Times, Rod Liddle, wedi ei feirniadu gan wleidyddion Cymru ynglŷn â sylwadau mae wedi gwneud am yr ymgyrch yn erbyn ailenwi Pont Hafren.

Mae tua 26,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y penderfyniad i enwi'r bont yn Bont Tywysog Cymru.

Mae colofn Mr Liddle wedi denu ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol wedi iddo ddweud nad oedd enw'r bont o bwys cyn belled â'i bod yn "caniatáu pobl i adael y lle yn syth".

Mae'r BBC wedi cysylltu gyda'r papur am sylw.

Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wnaeth ddatgelu'r enw newydd ar gyfer y bont ddydd Gwener ac mae hynny wedi arwain at ddeiseb yn erbyn y penderfyniad.

Yn ei golofn ddydd Sul dywedodd Mr Liddle y byddai yn well gan y Cymry pe byddai'r bont yn cael ei enwi yn "rhywbeth annealladwy heb eiriau go iawn, fel Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Gadewch iddyn nhw gael eu ffordd eu hunain. Cyn belled â'i bod yn caniatáu i bobl adael y lle yn syth, a ddylen ni boeni beth mae'n cael ei galw."

Mae'r AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts wedi dweud bod hi ddim yn iawn ei bod hi "dal yn dderbyniol bod Cymru yn cael ei defnyddio fel cocyn hitio ar gyfer newyddiaduraeth ymfflamychol".

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae'n fwriadol yn bychanu Cymru, yn ei galw yn dlawd i gymharu gyda Lloegr ac yn bychanu hynny ac wedyn yn bychanu ein hiaith."

Ychwanegodd bod pobl yn barod yn ddig ynglŷn â'r newid enw oedd wedi digwydd heb ymgynghoriad gan y cyhoedd a bod y golofn hon yn "ychwanegu halen at y briw".

Yn ôl AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth mae'r golofn yn "wenwyn" ac ni fyddai yn dderbyniol pe byddai yn cyfeirio at unrhyw grefydd, hil neu bobl eraill.

Bydd yr enw newydd yn dechrau cael ei ddefnyddio yn yr haf, ac ni fydd enw newydd i'r bont wreiddiol.