Gwrthod cais i godi unedau fforddiadwy ar safle hen ysgol

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Ffynnonbedr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y datblygwr eisiau codi'r unedau fforddiadwy ar safle hen Ysgol Ffynnonbedr

Mae Pwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Ceredigion wedi gwrthod cais dadleuol i godi 20 o unedau fforddiadwy ar safle hen Ysgol Ffynnonbedr yn Llanbedr Pont Steffan.

Roedd swyddogion cynllunio'r cyngor wedi argymell cymeradwyo'r cais, er bod 150 o bobl wedi ysgrifennu at yr awdurdod i'w wrthwynebu.

Roedd y safle wedi ei glustnodi yn wreiddiol ar gyfer 12 o unedau yn y Cynllun Datblygu Lleol, a'r bwriad oedd ailddefnyddio rhan o adeilad yr hen ysgol.

Fe wnaeth pedwar aelod o'r pwyllgor bleidleisio o blaid y cais, tra bo wyth yn erbyn ac wyth arall yn atal eu pleidlais.

Bwriad cwmni Hacer Developments oedd dymchwel yr adeiladau, sy'n dyddio o 1903, a chodi cymysgedd o unedau fforddiadwy.

Roedden nhw eisiau adeiladu 12 fflat un ystafell wely, chwe thŷ dwy ystafell wely a dau dŷ â thair ystafell wely.

Fe fyddai'r unedau wedi cael eu rheoli gan gymdeithas Wales & West Housing, ond roedd pryder yn lleol am record y cwmni wrth reoli tai a fflatiau eraill yn y dref.

'Gor-ddatblygiad'

Dywedodd Cerdin Price, sy'n rhedeg dau fusnes yn Llanbedr Pont Steffan ac sydd yn byw ar Heol y Bryn: "Mae gan Wales & West ddau adeilad yn y stryd ac mae'r rheiny wedi bod yn warthus i weld, a mwy 'na hynny mae problemau wedi bod.

"Mae'r heddlu wedi bod yno dros 25 o weithiau yn ystod y chwe mis diwethaf... mae lot o fynd a dod yng nghanol y nos."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pwyllgor Rheoli Datblygu y cyngor yn trafod y cais ddydd Mercher

Roedd y cynghorydd sir lleol, Hag Harris wedi beirniadu'r cais hefyd, gan ddweud ei fod yn "cynrychioli gor-ddatblygiad".

"Mae pobl yn poeni am broblemau traffig ym Mryn yr Eglwys," meddai.

"Maen nhw'n becso am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae dau dŷ ar Heol y Bryn ac mae cryn broblem wedi bod.

"Does dim gwrthwynebiad i ddatblygu'r safle ond yn ôl y Cynllun Datblygu Lleol roedd yna gymysgedd o dai yn mynd i fod yma.

"Mae beth 'da ni wedi'i dderbyn - mae cyd-fynd â'r Cynllun Datblygu Lleol wedi mynd mas drwy'r ffenest."

'Siom'

Mewn datganiad dywedodd Shayne Hembrow, dirprwy brif weithredwr Wales & West Housing eu bod yn "siomedig" â'r penderfyniad.

"Rydyn ni'n credu y byddai'r datblygiad wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r diffyg tai fforddiadwy ar gael i rentu i bobl leol yn Llanbed," meddai.

"Byddwn yn ymgynghori â Hacer Developments Ltd, y rheiny gyflwynodd y cais a'n partneriaid yn y cynllun arfaethedig, i ystyried ein hopsiynau ac edrych sut y gallwn ni symud ymlaen yn dilyn canlyniad y pwyllgor cynllunio heddiw."