Teulu o ffoaduriaid yn diolch am groeso yn Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Syria wedi diolch i bobl Aberteifi am eu croesawu a'u helpu i ymgartrefu yn y dref fel rhan o gynllun nawdd cymunedol Llywodraeth y DU.
Cafodd y cynllun ei lansio yn 2016 gan y Swyddfa Gartref fel ffordd o helpu grwpiau cymunedol i gefnogi ffoaduriaid i ddod i Brydain ar ôl ffoi'r rhyfel yn Syria.
Daeth Muhanad Alchikh, 37 oed, ei wraig a'u tri o blant i Aberteifi ym mis Tachwedd, ar ôl treulio tair blynedd mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Libanus.
Mae plant hynaf Muhanad - Shadi, wyth oed, a Sara, saith - yn mynychu Ysgol Gynradd Aberteifi ers mis Ionawr ac yn dysgu Cymraeg.
'Plant yn hapus'
Mae Mohanad ei hun wedi ymuno a thîm pêl-droed lleol - clwb Maesglas - ac yn gwneud gwaith gwirfoddol yn y dref.
Dywedodd: "Rwy'n hoffi Aberteifi a'r bobl. Ry'n ni'n hapus iawn fel teulu. Diolch am eich cefnogaeth a diolch yn fawr i Croeso Teifi a phobl Aberteifi."
Cyrhaeddodd y teulu ar ôl i elusen Croeso Teifi godi miloedd o bunnoedd er mwyn bod yn noddwr cymunedol.
Dywedodd Vicky Moller, Cadeirydd Croeso Teifi: "Roeddwn i'n ansicr a thipyn bach yn nerfus pan oeddwn yn aros yn y maes awyr amdanyn nhw.
"Ond ar ôl amser gwelais eu bod nhw'n mynd i setlo mewn yn iawn. Mae'r plant yn hapus yn yr ysgol, mae ganddyn nhw lawer o ffrindiau.
"Mae'r holl dref wedi helpu a thîm ardderchog Croeso Teifi - mae'n golygu llawer o waith, ond dwi'n mwynhau'r gwaith."
Gyda Syria yn y newyddion yn gyson - yn enwedig yn sgil yr ymosodiad cemegol honedig dros y penwythnos - mae Mohanad yn meddwl am ei deulu yn Syria o hyd.
Mae'n dweud ei fod yn meddwl y gellir dod a'r rhyfel i ben pe bai llywodraethau gwledydd y gorllewin yn gweithredu.
"Ry'n ni'n gobeithio y bydd llywodraeth Prydain yn sefyll gyda phobl Syria, ac atal y tywallt gwaed yno," meddai.
"Atal Assad, atal Rwsia ac Iran, ac atal y rhyfel."
Teulu ym mhob pentref?
Yn ystod y saith mlynedd ers dechrau'r rhyfel yn Syria, amcangyfrifir bod dros 400,000 o bobl wedi cael eu lladd neu wedi mynd ar goll.
Mae o leiaf 6.1 miliwn o Syriaid wedi gorfod ffoi i ran arall o'r wlad, tra bod 5.6 miliwn arall wedi gadael Syria. Yn ôl amcangyfrifon, mae 1.5 miliwn o ffoaduriaid o Syria yn Libanus.
Mae cynghorau Cymru wedi croesawu ffoaduriaid fel rhan o gynllun Ailsefydlu Pobl a Phlant Bregus sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth y DU.
Nawr mae cymunedau unigol yn derbyn teuluoedd o dan y Cynllun Nawdd Cymunedol - mae teuluoedd eisoes yn Abergwaun ac Arberth, ac mae Croeso Teifi yn barod i ystyried cynnig lloches i ail deulu os oes cefnogaeth yn y gymuned.
Ychwanegodd Ms Moller: "Rwy'n credu ein bod ni'n elwa llawer o gael y teulu yma, a hoffwn i weld teulu ym mhob pentref yng Nghymru falle.
"Fe fyddan nhw'n cyfoethogi'r pentref a byddan nhw'n hapus fel mae'r teulu yma yn Aberteifi."