Arestio llofrudd wedi apêl gyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi eu bod wedi arestio dyn yr oedden nhw'n chwilio amdano iddo dorri amodau ei drwydded.
Dywedodd yr heddlu fod Christopher Paul, 45, o Gaerffili wedi ei garcharu am lofruddiaeth yn 1992.
Cafodd Paul ei ryddhau ar drwydded o garchar Parc, Pen-y-bont, ar 21 Mehefin 2016.
Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Heddlu Gwent gyhoeddi apêl yn gofyn am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i Paul.
Wrth gyhoeddi ddydd Gwener eu bod wedi arestio'r dyn fe wnaeth yr heddlu ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth yn y mater.
Fe wnaeth Paul gael dedfryd o garchar am oes yn 1992 am lofruddio cyn-athro celf y flwyddyn flaenorol.
Cafodd Aneurin Caradog Williams, 63, ei ddarganfod wedi ei glymu yn ei gartref yn Llanbradach.
Ar y pryd roedd yr heddlu yn credu mai lladrata oedd y rheswm tu ôl i'r llofruddiaeth.
Dangosodd profion fod Mr Williams wedi marw ar ôl cael ei fygu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018