Cymru'n cyhoeddi dwy gêm gyfeillgar

  • Cyhoeddwyd
gemau CymruFfynhonnell y llun, CBDC

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi dwy gêm gyfeillgar i'r tîm cenedlaethol yn yr hydref.

Fe fydd y cyn-bencampwyr byd, Sbaen yn dod i Gymru ar 11 Hydref cyn i Ryan Giggs fynd â'i dîm i herio Albania yn Elbasan ar 20 Tachwedd.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru herio Sbaen ers 1985 pan enillodd Cymru o 3-0 mewn gêm ragbrofol i Gwpan y Byd.

Daeth dwy gôl gan Ian Rush a foli gofiadwy gan Mark Hughes â buddugoliaeth i Gymru yn y Cae Ras yn Wrecsam bryd hynny.

Daw'r gêm ddiweddaraf rhwng y ddwy wlad wrth i Gymru baratoi i deithio i herio Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar 16 Hydref.

Goliau dau reolwr

Mae Cymru wedi herio Albania ddwywaith. Roedd y gêm ddiwethaf yn 1995 yn gyfartal 1-1 yn ninas Tirana.

Yn yr unig gêm arall rhwng y ddwy wlad yn 1994, fe enillodd Cymru 2-0 gartref gyda goliau gan.... Chris Coleman a Ryan Giggs!

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud ym mha stadiwm fydd y gêm gartref yn erbyn Sbaen hyd yn hyn, ond fe fydd y gêm yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.