Syria: Carwyn Jones yn galw am gynllun hir dymor
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau blaenllaw o'r Blaid Lafur yng Nghymru wedi rhoi cefnogaeth gofalus i benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd rhan ar y cyd gyda'r Unol Daleithiau a Ffrainc mewn cyrch o'r awyr yn erbyn Syria.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones roedd hi'n "hanfodol" bod unrhyw weithredu yn rhan o gynllun hir dymor ar gyfer yr ardal.
Ond dywedodd AS Plaid Cymru Hywel Williams ei fod yn ofni fod y cyrchoedd o'r awyr yn erbyn Syria yn dwysau'r rhyfel cartref yno.
Dywedodd y prif Weinidog Theresa May fod yr ymosodiad fore Sadwrn yn erbyn safleoedd lle y credir fod arfau cemegol yn cael eu storio, gan ddisgrifio'r ymosodiad fel un "cywir a chyfreithiol."
Fe wnaeth y cyrch daro yn erbyn safleoedd milwrol yn ymyl Damascus a dinas Homs. Maen nhw'n dilyn ymosodiadau cemegol honedig ar dre Douma gan luoedd Syria.
Yn ôl cyfryngau Syria roedd yr ymosodiad o'r awyr yn "groes i gyfraith ryngwladol"
Dywedodd Theresa May y byddai'n gwneud datganiad i'r Senedd ddydd Llun ac yn rhoi cyfle i aelodau seneddol holi cwestiynau.
Dywedodd Mr Jones: "Fe wnes i siarad gyda'r Prif Weinidog yn hwyr neithiwr am y gweithredu yn Syria.
"Cynigiais fy nghefnogaeth i unrhyw ymyriad a allai atal rhagor o erchylltra, ond mae'n hanfodol bod unrhyw weithredu'n rhan o gynllun tymor hir ehangach ar gyfer y rhanbarth.
"Rydw i wedi annog y Prif Weinidog i wneud popeth o fewn ei gallu i osgoi marwolaethau pobl gyffredin o gofio mor gymhleth yw pethau ar y tir yn Syria, ac mae hi wedi rhoi sicrwydd i mi yn y cyswllt hwn.
"Rydyn ni'n meddwl heddiw am ein personél gwasanaethu a phobl Syria sydd wedi dioddef yn enbyd."
Canlyniadau hir dymor
Dywedodd AS Llanelli, Nia Griffith, llefarydd y blaid Lafur ar Amddiffyn ei bod hi yn falch bod y rhai oedd yn rhan o'r cyrchoedd wedi dychwelyd yn ddiogel, "ac rydym yn gwerthfawrogi eu dewrder a'u proffesiynoldeb, ond fe ddylai'r Senedd fod wedi gallu rhoi ban ac mae'r rhaid cael strategaeth ehangach ar Syria o du'r Llywodraeth a'r Cynghreiriaid."
Ond fe wnaeth Hywel Williams AS Plaid Cymru Arfon, gwestiynu a oedd y cyrch yn gyfreithlon a hefyd ei bwrpas, pa mor effeithiol y bydd a beth fydd y canlyniadau hir dymor.
Dywedodd wrth BBC Radio Cymru y dylai'r ymateb fod wedi bod yn fwy ystyrlon i'r ymosodiad cemegol honedig ar Douma.
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg Andrew RT Davies groesawu'r ymosodiad o'r awyr: "Mae gweithredoedd addas wedi eu cymryd gan y DU a'r cynghreiriaid er mwyn israddio gallu arweinwyr Syria i ddefnyddio arfau cemegol, ac mae hyn felly yn atal ymosodiadau erchyll pellach. "
Yn siarad yng nghynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yng Nghaerdydd dywedodd y Farwnes Brinton, Llywydd y blaid, y dylai'r Prif Weinidog fod wedi cysylltu â'r Senedd cyn gweithredu.
Dywedodd fod gweithredu heb gysylltu ag aelodau seneddol yn "llwyr danseilio" bwriad y gweithredu.