Pryder am swyddi cynhyrchu Cymru wedi awtomeiddio
- Cyhoeddwyd
Fe allai awtomeiddio daro gweithwyr Cymru'n galed, yn ôl gwaith ymchwil newydd sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Gallai'r 10 cwmni sy'n cyflogi'r nifer uchaf o bobl yng Nghymru wynebu'r perygl mwyaf o golledion swyddi drwy wahanol fathau o awtomeiddio, yn ôl ymchwil grŵp trafod Future Advocacy.
Fe allai'r awtomeiddio hynny gynnwys deallusrwydd ffug a realiti estynedig.
Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu mai etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy, yng ngogledd ddwyrain Cymru, allai weld effaith awtomeiddio fwyaf.
Ym mis Ionawr fe wnaeth melin drafod arall rybuddio y gallai tua 112,000 o weithwyr fod mewn perygl yn ardaloedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.
Peryglu 46% o swyddi cynhyrchu
Mae'r etholaeth yn bedwerydd ar restr o 632 etholaeth Prydain (ac eithrio Gogledd Iwerddon) o ran effaith posib awtomeiddio.
Mae 'na ddarogan y gallai un o bob tair swydd ddiflannu yn Alun a Glannau Dyfrdwy erbyn 2030, a hefyd yn etholaethau Dwyrain Casnewydd ac Islwyn, yn sgil awtomeiddio.
Yng Nghymru swyddi cynhyrchu sydd yn y fantol, tra ar draws y DU swyddi manwerthu a dosbarthu sydd mewn perygl.
Mae'r ymchwil yn awgrymu na fydd angen dros 46% o swyddi cynhyrchu yng Nghymru erbyn 2030, na 32% o swyddi yn y sector ariannol.
Dywed awdur y gwaith ymchwil, Dr Matthew Fenech, bod galwadau am fwy o bwyslais ar ddysgu gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a chodio yn rhy hwyr.
Mae'n dweud na fydd yn datrys y broblem yn y tymor hir, er y gallai fod yn ddefnyddiol am gyfnod.
Dywedodd Dr Fenech: "Y gwir yw mai'r sgiliau fydd yn gwrthsefyll awtomeiddio orau fydd sgiliau gofalu, sgiliau rhyngbersonol, sgiliau cyfathrebu felly bydd canolbwyntio ar rhain yn bwysig."
Cyfle i fanteisio?
Ychwanegodd Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor: "Ni fydd y dyfodol yn gystadleuaeth rhwng pobl a thechnoleg ond yn un lle bydd modd i'r rhai sy'n deall y dechnoleg ac yn medru'i mabwysiadu a'i haddasu at eu dibenion masnachol ffynnu.
"Yn y diwydiant cyfieithu Cymraeg mae'r defnydd o beiriannau cyfieithu o dan reolaeth cyfieithwyr wedi creu newid mawr yn eu patrymau gwaith fel eu bod yn olygyddion bron, ond mae wedi cynyddu eu heffeithlonrwydd yn sylweddol.
"Mae'n bwysig felly gwella sgiliau technolegol y gweithlu er mwyn gallu rheoli'r awtomeiddio anochel ac er mwyn sicrhau bod y technolegau hyn ar gael ar gyfer y Gymraeg yn ogystal â ieithoedd eraill."
Yn ôl Lee Waters AC, rôl unrhyw lywodraeth yw paratoi'r gweithlu am y swyddi newydd.
"Allwn ni ddim atal awtomeiddio... yr hyn allwn ni ei wneud yw manteisio arno," meddai.
"Yn lle prynu robotiaid o China a rhaglenni cyfrifiadurol o America dylwn ni fod yn dylunio rhain."
Fe wnaeth Mr Waters gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater, ond dywedodd bod angen mwy o weithredu ymarferol ar frys.
"Rydw i'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth, gwneud rhywbeth yn sydyn, fel y gallwn ni ddechrau addasu yn hytrach nac aros am berffeithrwydd."
'Barod am y dyfodol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod mynd i'r afael â'r mater "wrth galon" ei chynllun economaidd ac y byddai'n cefnogi "cynlluniau buddsoddi mentrus sy'n sicrhau bod busnesau'n barod am y dyfodol a'r economi ehangach".
Ychwanegodd y byddai adolygiad o arloesi digidol yn "adolygu cyfleoedd hirdymor" sy'n berthnasol i economi Cymru.
Serch hynny, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe yn mynnu y gall awtomeiddio wella bywydau pobl yng Nghymru.
Dywedodd y gallai deallusrwydd ffug, er enghraifft, helpu pobl i fyw bywydau mwy iach ac anibynnol.
"Mae [angen] canolbwyntio ar sut y bydd angen i bolisi cymdeithasol edrych yn y dyfodol a sut mae polisi cymdeithasol yn cydweithio gyda'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018