Robotiaid i gymryd 'un o bob pedair swydd' erbyn 2030

  • Cyhoeddwyd
robotFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae melin drafod wedi rhybuddio ei bod yn bosib y bydd un ym mhob pedair swydd yn ninasoedd Cymru yn cael eu colli i robotiaid erbyn 2030 oni bai bod sgiliau'r gweithlu'n newid.

Mae'r Centre for Cities wedi amcangyfrif bod tua 112,000 o weithwyr mewn perygl yn ardaloedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

Mae'r sefydliad yn honni y gallai gweithwyr yng Nghymru golli swyddi yn y diwydiannau newydd, oni bai bod newidiadau yn cael eu gwneud i'r ffordd mae pobl ifanc yn cael eu haddysgu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi'n helaeth mewn datblygu sgiliau.

Yn ôl adroddiad blynyddol y sefydliad ar economïau dinasoedd y DU, mae'r swyddi sydd fwyaf mewn perygl o gael eu disodli gan y dechnoleg newydd yn cynnwys swyddi manwerthu, gwasanaeth cwsmeriaid a swyddi warws.

Er nad yw'r bygythiad yn un newydd, mae'r adroddiad yn dweud bod angen gwneud mwy i baratoi ar gyfer y diwydiannau newydd, a'r potensial y gallen nhw ei gynnig.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywedodd Andrew Carter, prif weithredwr Centre for Cities, y byddai "awtomeiddio" yn dod â chyfleoedd enfawr i gynyddu ffyniant a swyddi.

Ond ychwanegodd: "Mae yna risg gwirioneddol hefyd y bydd llawer o bobl yn ninasoedd Cymru yn colli allan."

Dywedodd Mr Carter fod angen "gwneud newidiadau i'r system addysg i sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau i ffynnu yn y dyfodol ac i wella safonau ysgolion.

"Mae angen mwy o fuddsoddiad hefyd arnom mewn dysgu gydol oes ac addysg dechnegol i helpu oedolion i addasu i'r farchnad lafur sy'n newid," meddai.

Mewn dadl yn y Senedd yn ddiweddar rhybuddiodd yr AC Llafur, Lee Waters, fod y cynnydd mewn roboteg yn "anghyffredin ac yn ofnus", gan ddweud bod nifer anghymesur o swyddi yng Nghymru yn cael eu "awtomeiddio".

Ond dywedodd y dylai'r newid gael ei chofleidio yn hytrach na'i wrthwynebu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod nifer y bobl sy'n gweithio yng Nghymru ar ei lefel uchaf, ond eu bod yn gweithio i baratoi ar gyfer heriau economaidd y dyfodol.

Dywedodd llefarydd: "Rydyn ni'n buddsoddi'n helaeth i geisio cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau, ac rydym ar y trywydd i ddarparu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel.

"Bydd ein cynllun gweithredu economaidd yn rhoi sgiliau i'n pobl a'n busnesau i wynebu'r dyfodol yn hyderus."