Yw'r Scarlets yn mynd i brofi torcalon yn Ewrop eto?
- Cyhoeddwyd
Leinster v Scarlets. Rownd gynderfynol Cwpan y Pencampwyr. Stadiwm Aviva, Dulyn. Dydd Sadwrn, 21 Ebrill, cic gyntaf 15.30. Sylwebaeth ar BBC Radio Cymru.
Roedd 'na adeg pan roedd gweld tîm o dre'r Sosban yn wyth ola' Cwpan Ewrop y peth mwyaf naturiol dan haul.
Fel clwb Llanelli, ac yna fel rhanbarth y Scarlets, roedden nhw yno pum gwaith mewn chwe blynedd rhwng 1999 a 2005.
Ond dyw troeon trwstan a thorcalon yn Ewrop ddim yn ddieithr i'r Scarlets chwaith.
13 Ionawr 2001 oedd y dyddiad, Kingsholm y lleoliad, ac yn hwyr yn y gêm gyda'r Scarlets ar y blaen, cic adlam Elton Moncrieff (cofie fe? - na fi chwaith!) yn adlamu oddi ar ben-ôl y prop Phil Booth a dros y bar!
Caerloyw'n fuddugol, 28-27, ac yn mynd drwodd ar draul Llanelli.
Nid pen ôl ond pren oedd yn gyfrifol am dorcalon y flwyddyn ganlynol.
Cartref Nottingham Forest, y City Ground oedd y lleoliad y tro 'ma a hynny yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.
Unwaith eto'r Scarlets ar y blaen ac amser yn prinhau a chic gosb Tim Stimpson o hanner ffordd yn adlamu oddi ar y trawst A'R postyn i gipio buddugoliaeth, 13-12.
Tri chynnig i Gymro medd yr hen air ond doedd hynny ddim yn wir yn achos Llanelli oherwydd hwn oedd y trydydd tro iddyn nhw gloffi ar y funud olaf yn un o'r rowndiau un-cyfle.
Roedden nhw eisoes wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yn 2000 a doedd dim i'w gwahanu nhw a Northampton yn Stadiwm Madejski.
Gyda'r ddau dîm wedi cloi ar 28 yr un, a'r gêm wedi gorfod mynd i amser ychwanegol, trosedd gan flaenasgellwr Llanelli, Ian Boobyer yn agos i'r ddwy ar hugain oedd y trobwynt y tro yma.
Roedd maswr Lloegr, Paul Grayson, yn hen ddigon profiadol i gadw'i ben a chwalu gobeithion y Scarlets.
Roedd y gwrthwynebwyr yn gyfarwydd yn rownd gynderfynol 2007 hefyd - Teigrod Caerlŷr, ond y lleoliad yn wahanol - Stadiwm Walker, cartre' tîm pêl-droed y ddinas.
Ond am unwaith doedd dim digwyddiad dadleuol, nac eiliad anhygoel i droi'r gêm - roedd e'n chwalad llwyr a Chaerlŷr yn brasgamu nôl i Twickenham ar gefn buddugoliaeth, 33-17.
'Adfer ffydd Phil Bennett mewn rygbi'
A dyna'r tro ola' i'r Scarlets lwyddo i ddod mas o'r grŵp ym mhrif gystadleuaeth Ewrop - dros ddegawd yn ôl!
Tan yn ddiweddar mae llwyddiant yn agosach at adre wedi profi'r un mor anodd.
Dim ond unwaith lwyddon nhw i gyrraedd gemau ail-gyfle'r Pro 12 - tan y llynedd pan aethon nhw'r holl ffordd ac ennill y gystadleuaeth mewn steil.
Fe ddywedodd Phil Bennett yn ddiweddar, un o gewri'r Strade a Chymru, ei fod bron wedi'i ddadrithio gyda rygbi dros y blynyddoedd dwetha' ond bod rygbi'r Scarlets wedi adfer ei ffydd yn y gêm.
Llynedd fe lwyddodd y Scarlets i ddal llygad pawb gyda'u rygbi cyffrous, mentrus, medrus. Yr un yw'r meddylfryd eleni.
Hyd yn oed ar ôl colli'r ddwy gêm gyntaf yn y grŵp a mynd ar eu hôl hi adre i Benetton, 'naethon nhw byth wyro oddi ar yr athroniaeth newydd ac fe ddaeth y ceisiau a'n bwysicach y pwyntiau bonws i'w cael nhw drwy'r grŵp. Ac roedd yr hanner cynta' yng Nghaerfaddon gyda'r mwyaf cofiadwy erioed.
Fe fydd y Scarlets yn ymwybodol fod Leinster yn un o fawrion Ewrop.
Maen nhw wedi cyrraedd wyth olaf Cwpan Ewrop bedair gwaith; y rownd gynderfynol hanner dwsin o weithiau a chodi'r Cwpan deirgwaith (yn ogystal â'r Cwpan Her unwaith). Dim ond unwaith yn yr wyth tymor dwetha maen nhw wedi gorffen tu fas i'r ddau uchaf yn y gynghrair ac mae chwaraewyr rhyngwladol, profiadol, safonol yn britho'r tîm.
Mae torfeydd mawr yn creu awyrgylch anhygoel yn eu cartre' yn yr RDS ac yn Stadiwm Aviva (sydd ond rhyw filltir lawr y ffordd), ond mae cefnogwyr y Scarlets ar eu tomen eu hunain ac ar yr heol wedi bod yn wych ac wedi codi'r tîm mewn cyfnodau anodd.
Os oes un ystadegyn i godi calonnau'r cefnogwyr a chwaraewyr, mae Leinster wedi chwarae pedair gêm gynderfynol yn y Stadiwm - dim ond un maen nhw wedi ennill.
Tybed ai dyma'r flwyddyn o'r diwedd i'r Scarlets?