'Dylai menywod gael cymryd tabledi erthylu gartref'

  • Cyhoeddwyd
tablediFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai menywod gael cymryd tabledi erthylu yn eu cartref.

Ar hyn o bryd mae'n anghyfreithlon gwneud hynny, sy'n golygu bod rhaid mynd i feddygfa i gymryd y cwrs o ddwy bilsen dridiau ar wahân.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething fod ei swyddogion yn edrych ar sut fyddai modd newid y gyfraith i ganiatáu i'r driniaeth gael ei chynnal adref.

Mae'r AC Llafur Jenny Rathbone wedi croesawu'r cynnig gan ddweud bod gweithwyr iechyd yn "gefnogol iawn" o'r syniad.

Fe wnaeth gweinidogion yn Yr Alban gyflwyno newid tebyg y llynedd.

Yn y cartref

Mae mwy na thri chwarter yr erthyliadau yng Nghymru - 77.8% - yn cael eu gweithredu'n feddygol yn hytrach na drwy lawdriniaeth.

Does dim ond modd cael erthyliad meddygol yn naw wythnos gyntaf y beichiogrwydd, ac mae'n golygu cymryd dwy feddyginiaeth wahanol o fewn 72 awr i'w gilydd.

Byddai'r newid yn golygu bod modd i fenywod gael y ddwy feddyginiaeth yn ystod yr un apwyntiad.

Fe fydden nhw'n gallu cymryd yr ail dabled, Misoprostol, sydd yn achosi'r erthyliad, yn eu cartref eu hunain yn hytrach na theithio 'nôl i'r feddygfa i'w chymryd.

Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Mr Gething y byddai'n gofyn i swyddogion lunio cynllun ar gyfer gweithredu'r newid, oedd wedi ei argymell yn adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar wasanaethau iechyd rhyw.

"Rydw i wrth fy modd bod Vaughan Gething wedi ymateb i'r alwad ar alluogi menywod i gymryd yr ail bilsen erthylu yn eu cartref eu hunain, yn hytrach na gorfod dychwelyd i'r feddygfa ac yna delio ag erthylu ar y bws adref," meddai Ms Rathbone, AC Canol Caerdydd.

Ychwanegodd: "Mae gan hyn gefnogaeth gref gweithwyr iechyd sydd yn gweithio ym maes gwasanaethau iechyd rhyw."