Ysgol newydd i Fachynlleth erbyn 2021

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro HyddgenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr adeilad newydd yn cael ei godi ar gaeau chwarae'r campws uwchradd

Mae disgwyl i ysgol newydd ar gyfer disgyblion o bob oed ym Machynlleth i fod yn barod erbyn 2021, ac i fod yn adeilad eithriadol o 'wyrdd'.

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi eu bod wedi dewis cwmni Dawnus yn brif gontractwr i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen yn y dref.

Bydd seilwaith yr ysgol newydd gwerth £23 miliwn yn cael ei adeiladu ar feysydd chwarae presennol y campws uwchradd, a bydd yr hen adeilad yn cael ei dymchwel i wneud lle ar gyfer maes parcio a chyfleusterau chwaraeon newydd.

Yn ôl Cyngor Powys hi fydd yr ysgol bob oed gyntaf yn y wlad sydd wedi'i hachredu gan Passivhous, sy'n golygu y bydd ganddi "safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni, gan leihau'r ynni a ddefnyddir ar gyfer gwresogi ac oeri, gan dorri allyriadau CO2 yr ysgol."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r campws cynradd ar safle gwahanol i'r uwchradd ar hyn o bryd, yn adeiladau Ysgol Gynradd Machynlleth

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar faterion Addysg, y Cyng. Myfanwy Alexander: "Mae'r cymunedau addysg eisoes wedi cofleidio manteision ysgol bob oed, a bydd y model cyflenwi hwn yn digwydd yn yr ysgol passivhaus gyntaf Cymru yn y dyfodol.

"Mae hi'n briodol iawn bod Machynlleth, ardal ag iddi draddodiad heb ei ail o ymchwil i gadwraeth ynni, yn gartref i'r datblygiad gweledigaethol yma."

Bydd tri dosbarth blynyddoedd cynnar gyda staff ategol, a lle i 210 yn yr ysgol gynradd.

Bydd lle yn yr adran uwchradd i 380 o ddisgyblion, gan gynnwys darpariaeth 6ed dosbarth.

Cyngor Sir Powys a Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif sy'n cyllido'r prosiect ar y cyd.