Cyhoeddi lluniau CCTV wedi lladrad ym manc HSBC Dinbych
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru sy'n ymchwilio i ladrad banc yn Ninbych ddydd Mawrth, wedi cyhoeddi lluniau CCTV o ddyn sy'n cael ei amau.
Fe gafodd swyddogion eu galw i fanc HSBC yn nhref Dinbych am tua 10:20 fore Mawrth, wedi adroddiadau fod dyn wedi bygwth staff gydag arf wedi ei guddio mewn bag.
Fe lwyddodd y dyn i ddianc gyda swm o arian, ac fe gafodd ei weld ddiwethaf yn ffoi i gyfeiriad y maes parcio aml-lawr yn y dref.
Mae'r troseddwr honedig yn cael ei ddisgrifio fel dyn canolig ei faint, tua 6 troedfedd o daldra.
Roedd y dyn sy'n cael ei amau yn gwisgo mwgwd gyda marciau arno, trowsus jîns lliw glas tywyll, gwasgod gweithwyr lliw melyn llachar, a menig du.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Simon Kneale o adran CID Llanelwy: 'Yn ffodus, ni chafodd neb ei niweidio'n gorfforol yn ystod y digwyddiad hwn. Fodd bynnag, roedd yn brofiad ofnadwy a dychrynllyd i'r staff ac aelodau'r cyhoedd oedd yn y banc ar y pryd.
"Mae angen i ni ddal y troseddwr hwn yn gyflym, ac rydym yn gofyn i'r gymuned leol ein helpu drwy roi unrhyw wybodaeth berthnasol i ni.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Vale St ar y pryd i feddwl a oedd unrhyw rai neu gerbydau yn ymddwyn yn amheus naill ai ar Vale St neu ar y ffyrdd cyfagos.
"Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw yrwyr a allai fod wedi bod yn yr ardal sydd â chamerâu yn eu ceir i gysylltu â ni, rhag ofn eu bod wedi ffilmio rhywbeth a allai fod o gymorth i ni."
Mae'n bosib i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ag adran CID Llanelwy ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018