Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gwerth £25.9m o grantiau
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddarach bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael gwybod beth fydd eu cyfran nhw o £25.9m o grantiau trafnidiaeth leol.
Bydd yr arian yn mynd tuag at raglenni gwella diogelwch, lleihau tagfeydd, creu twf economaidd a hyrwyddo teithiau llesol.
Daeth y cyhoeddiad gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a oedd 'wrth ei fodd' gyda'r cynlluniau.
Daeth cyfanswm o 190 cais i law gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn nodi eu prif gynlluniau.
'Buddsoddiad sylweddol'
Dywedodd Mr Skates, ei fod yn falch iawn o'r amrywiaeth o gynlluniau sydd wedi eu cyhoeddi.
"Mae'r grantiau'n fuddsoddiad mawr i gynnal twf economaidd lleol, gwella diogelwch ar y ffyrdd a darparu llwybrau gwell a mwy ohonynt, er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i gerdded a beicio, ac i wneud hynny'n ddiogel."
Roedd yr Ysgrifennydd hefyd yn canmol ansawdd uchel y ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer y grantiau hyn.
Y Cynlluniau
Cronfa Trafnidiaeth Leol gwerth £6.15m yn caniatáu i 18 cynllun barhau â gwaith ar brosiectau aml flwyddyn, ar draws 13 awdurdod lleol.
£5m ychwanegol i alluogi awdurdodau lleol i ariannu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau teithio llesol.
Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol o £4m yn sicrhau bod 4 cynllun cyfredol yn gallu parhau a bod 9 cynllun newydd yn gallu dechrau ar draws 13 Awdurdod Lleol.
Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd gwerth bron £4m yn ariannu 18 o gynlluniau gan helpu i leihau nifer yr anafiadau mewn 11 awdurdod lleol.
Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gwerth £5m yn canolbwyntio ar 26 o gynlluniau sy'n gwella llwybrau cerdded a beicio i ysgolion mewn 18 awdurdod lleol.
Bron £1.75m yn cael ei ryddhau i bob awdurdod lleol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddi diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig ymysg grwpiau risg uchel a grwpiau sy'n agored i niwed.
Bydd y cyllid yn caniatáu datblygu sawl prosiect megis gorsaf drenau Abercynon, sy'n cael ei ehangu i gynnwys cyfleuster parcio a theithio newydd.
Y bwriad yw annog preswylwyr i beidio â defnyddio trafnidiaeth breifat gan leihau nifer y ceir sy'n cael eu defnyddio a gwella ansawdd yr aer mewn trefi a dinasoedd.
Yn y Gogledd, mae cyllid sylweddol wedi'i fuddsoddi yng Nghynllun Blaenoriaeth i Fysiau Bae Cinmel, fydd yn lleihau tagfeydd ar y groesfan ag arwyddion ar yr A548 rhwng Stryd Foryd a Heol St Asaph.