Disgwyl cyhoeddi newidiadau pellgyrhaeddol Hywel Dda
- Cyhoeddwyd
Bydd newidiadau pellgyrhaeddol i'r gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru'n cael eu hamlinellu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda fore Iau.
Mae'n dilyn rhybuddion fod gwasanaethau iechyd yn yr ardal yn anghynaladwy a bod 'na risg y gallai rhai ddymchwel o ganlyniad i gynnydd yn y galw am ofal ac oherwydd prinder difrifol o staff.
Mae penaethiaid y bwrdd wedi rhybuddio ers tro eu bod yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cynnal gwasanaethau diogel ar draws y pedwar prif ysbyty.
Un o'r prif heriau yw prinder staff - a'r bwrdd yn gwario miliynau o bunnau bob mis yn cyflogi staff dros dro i lenwi bylchau.
Mewn cyfarfod arbennig fore Iau bydd y bwrdd yn trafod cynigion sy'n debygol o gynnwys cynlluniau i israddio gwasanaethau mewn rhai ysbytai ond allai hefyd weld ysbyty newydd yn cael ei adeiladu.
Yn dilyn hynny bydd cyfle i'r cyhoedd gael dweud eu dweud ynglŷn â beth ddylai ddigwydd.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae Hywel Dda yn rhedeg gwasanaethau iechyd Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion - tua 385,000 o bobl.
Mae tua 150,000 o gleifion yn cael eu gweld pob wythnos yno, a nifer o'r rheiny ym mhedair prif ysbyty'r bwrdd iechyd - Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Mae'r bwrdd hefyd yn gyfrifol am saith ysbyty cymunedol, 41 o feddygfeydd a 46 o swyddfeydd deintydd.
Ond mae'r bwrdd yn wynebu heriau sylweddol, gyda'r boblogaeth yn tyfu ac yn heneiddio a gwahaniaeth mawr rhwng iechyd gwahanol ardaloedd.
Mae gwahaniaeth o 10 mlynedd rhwng disgwyliad einioes ardaloedd mwyaf llewyrchus a mwyaf difreintiedig y rhanbarth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2018