Disgyblion i ddychwelyd i safle Ysgol Ardudwy wedi storm

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Ardudwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd toeau'r ysgol eu difrodi yn ystod storm Emma

Bydd disgyblion yn dychwelyd i safle Ysgol Ardudwy yn Harlech ddydd Llun 23 Ebrill, wedi i dywydd stormus achosi difrod mawr ym mis Mawrth.

Bydd cam cyntaf y cynlluniau i drwsio'r difrod i doeau adeilad yr ysgol wedi'i gwblhau erbyn y penwythnos.

Mae'r gwaith o ail-doi'r rhan fwyaf o'r ysgol yn dechrau yn awr a'r nod yw cwblhau'r gwaith erbyn diwedd gwyliau'r haf.

Digwyddodd y difrod yn sgil Storm Emma, a bu'n rhaid i rai o ddisgyblion yr ysgol gael eu haddysg mewn theatr yn dilyn hynny.

Cafodd eraill eu hadleoli i'r hen lyfrgell, y clwb ieuenctid yn Harlech, a Choleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau.

'Peidio amharu ar waith'

Bydd y contractwyr yn gweithio'n agos gyda'r ysgol o hyn ymlaen er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith yn amharu ar weithgareddau'r ysgol.

Mae Ysgol Ardudwy wedi rhoi sicrwydd na fydd unrhyw waith trwsio'n digwydd yn ystod arholiadau TGAU.

Am gyfnod, bydd rhai dosbarthiadau'n parhau i gael eu cynnal yn adeilad yr hen lyfrgell yn Harlech, gyda gwasanaeth bws gwennol yn cael ei ddarparu.

Hyn, tra bod gwaith yn cael ei wneud ar ddosbarthiadau'r llawr uchaf.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o ail-doi rhannau eraill o'r ysgol yn parhau

Mewn datganiad, diolchodd Cyngor Gwynedd "i'r gwahanol ganolfannau sydd wedi cynnig cyfleusterau dros dro i'r ysgol, ac i staff yr ysgol, y disgyblion a'u rhieni am bob cydweithrediad yn ystod y cyfnod heriol hwn.

"Mae pawb yn falch bod y trefniadau dros dro a weithredwyd yn llwyddiannus wedi sicrhau bod addysg i'r disgyblion wedi parhau er gwaethaf yr amodau heriol."