Digartrefedd: Galw am beidio blaenoriaethu gyda llety
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru gael gwared â'r system bresennol sydd yn blaenoriaethu pa bobl ddigartref sydd yn cael tai, yn ôl pwyllgor o Aelodau Cynulliad.
Dywedodd aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y byddai newid y system 'angen blaenoriaethol' yn arwain at lai o bobl yn cysgu ar y strydoedd yn y pen draw.
Yn ôl yr ACau mae'r system bresennol yn golygu bod llawer o bobl ddigartref ddylai gael eu hystyried fel rhai mewn cyflwr bregus - megis rhai ag iechyd gwael neu sy'n camddefnyddio sylweddau - dal yn cael eu gadael ar ôl.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am dai yn adolygu'r ddeddfwriaeth.
'Disgyn drwy'r rhwyd'
Mae'r rheiny sydd ar hyn o bryd yn cael eu hystyried fel 'blaenoriaeth' yn cynnwys menywod beichiog, pobl sydd â phlant yn dibynnu arnyn nhw, pobl ifanc 16 ac 17 oed, a phobl ifanc 18-20 sydd wedi bod mewn gofal neu allai gael eu hecsbloetio.
Dywedodd y pwyllgor fod ffigyrau'n dangos bod o leiaf 345 o bobl yn cysgu ar y strydoedd yng Nghymru rhwng 16-29 Hydref 2017, a bod y ffigwr wedi bod yn cynyddu.
Maen nhw wedi galw ar y llywodraeth i ddiddymu'r system sydd yn blaenoriaethu rhai pobl ddigartref, ac yn y cyfamser i gategoreiddio person digartref fel "blaenoriaeth".
"Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru yn cynyddu ac mae hyn yn rhywbeth na ddylem ei dderbyn fel cymdeithas," meddai John Griffiths, cadeirydd y pwyllgor.
"Mae'r rhesymau pam bod pobl yn byw ar y stryd yn aml yn gymhleth ac nid oes un ateb sy'n addas i bawb.
"Yr hyn y mae ein hymchwiliad wedi'i ganfod yw bod y meini prawf a ddefnyddir i adnabod y rheini sydd ag 'angen blaenoriaethol' am lety gymaint fel bod hyd yn oed y bobl fwyaf hyglwyf yn ein cymunedau yn disgyn drwy'r rhwyd.
"Rydym am i Lywodraeth Cymru gyflwyno dull graddol o ddiddymu'r angen blaenoriaethol, a fyddai'n dechrau drwy sicrhau bod pawb sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu hystyried i fod ag angen blaenoriaethol, a bod ganddynt hawl i gael cymorth a thai."
Cafodd y system 'angen blaenoriaethol' ei newid yn yr Alban yn 2012, fel bod unrhyw un oedd yn canfod eu hunain yn "ddigartref yn anfwriadol" yn cael hawl i lety.
Er bod y newid wedi arwain at rai problemau, gyda mwy o bobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn llety dros dro, ar y cyfan mae'r polisi wedi cael ei ystyried yn un llwyddiannus.
'Adolygu deddfwriaeth'
Dywedodd elusen digartrefedd The Wallich wrth y pwyllgor fod dileu'r system o angen blaenoriaethol yn "gyffrous" ac yn "gyraeddadwy".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod deddfwriaeth tai'r llywodraeth yn ceisio "lleihau digartrefedd" trwy ganolbwyntio fwy ar ataliad a helpu unrhyw un sydd "mewn perygl".
"Mae'r gweinidog tai wedi datgan yn glir ei bod yn bwriadu adolygu'r ddeddfwriaeth ynglŷn ag angen blaenoriaethol a sut mae hyn yn gweithio ar gyfer rhai sydd yn cysgu ar y stryd a rhai grwpiau bregus o bobl yng Nghymru," meddai'r llefarydd.
Ychwanegodd y llefarydd y byddant yn ystyried argymhellion yr adroddiad ac yn ymateb mewn amser.