Ffurfio ysgol Gymraeg 3-19 ym Mhentre'r Eglwys

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gyfun Garth OlwgFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgol gyfun (uchod) a'r ysgol gynradd eisioes ar yr un safle

Bydd ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 oed yn agor ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2019 ar ôl i aelodau cabinet Rhondda Cynon Taf gymeradwyo'r cynnig.

Ar hyn o bryd mae dwy ysgol ar y safle sef Ysgol Gynradd Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Garth Olwg, ond mae'r disgyblion cynradd wedi bod yn gwneud defnydd o gyfleusterau'r ysgol gyfun.

Ffurfioli'r trefniadau sydd eisoes yn bodoli o ran rhannu adnoddau yw'r cam diweddaraf, gan uno'r ddwy ysgol yn un.

Dywedodd y cynghorydd Joy Rosser, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros addysg a dysgu gydol oes, y bydd "trefniadau yn cael eu rhoi yn eu lle nawr i'r ysgol ffurfio ym mis Medi 2019, fydd yn golygu ad-drefnu bach o ran dosbarthiadau a llefydd dysgu".

Ychwanegodd y bydd y model o greu ysgolion ar gyfer yr oedran 3-19 yn cael eu defnyddio yn y dyfodol ar gyfer ysgolion newydd fydd yn cael eu sefydlu ym Mhorth, Tonypandy a Thonyrefail.

Y disgwyl yw y bydd yr enw Garth Olwg yn cael ei gadw mewn rhyw ffordd ar gyfer yr ysgol newydd.