Iechyd meddwl: 'Problem gynyddol' diffyg gwlâu
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi siarad am y drafferth o ganfod gwlâu i bobl ifanc fregus â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd yr Ustus Francis ei fod yn "broblem gynyddol".
Roed yn siarad yn achos merch 17 oed oedd wedi cael ei chadw mewn lleoliad "anaddas" am nad oedd modd dod o hyd i wely mewn ysbyty neu uned iechyd meddwl iddi.
Fe wnaeth yr Ustus Francis, yn eistedd yng Nghaerdydd, ddisgrifio'r sefyllfa fel "trasiedi enbyd".
'Dim lle'
Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cael gwahoddiad i'r gwrandawiad llys ond gwrthododd gan ddweud nad oedd wedi cael "rôl uniongyrchol" yng nghomisiynu gwlâu.
Clywodd y llys bod y ferch, sydd ag anableddau dysgu difrifol ac sy'n seicotig, wedi bod yn aros mewn uned yn ne Cymru oedd yn anaddas ac yn methu â chwrdd â'i gofynion.
Yn eu tystiolaeth dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod yn pryderu'n fawr nad oedd ei lleoliad presennol yn gofalu'n ddigonol am ei hanghenion meddyliol, emosiynol a chorfforol.
Fe wnaethon nhw ddweud eu bod nhw'n credu ei bod hi'n cael ei niweidio'n sylweddol.
Dywedodd cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan wrth y llys fod prinder gwlâu i bobl ifanc ag anawsterau dysgu ar draws y DU.
Ond fe gafodd gwely ei ganfod yn ardal Gwent tra bod y llys wedi'i ohirio.
"Mae nifer o achosion yma ac yn Lloegr ble dyw pobl ifanc bregus ddim wedi cael y sylw sydd ei angen arnyn nhw... mae'n broblem sy'n tyfu," meddai'r Ustus Francis.
"Dyw llefydd ar gyfer pobl ifanc fregus ddim ar gael."
Fe wnaeth y llys hefyd weld tystiolaeth bod Cyngor Casnewydd wedi esbonio'r sefyllfa i Mr Gething, gafodd wahoddiad i ddod i'r llys.
Yn ei ymateb dywedodd y gweinidog mewn e-bost nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael rôl uniongyrchol wrth gomisiynu gwasanaethau iechyd meddwl ac nad oedd ef mewn rôl oedd yn gwneud penderfyniadau ar waith dydd i ddydd.
Oherwydd hynny, meddai, doedd e "ddim yn credu ei bod hi'n briodol iddo fynychu'r llys mewn perthynas â'r mater".
'Ynysu'n llwyr'
Cafodd pryderon eu codi am leoliad y ferch, gydag e-bost gan bennaeth yr uned ble roedd hi'n aros i'r awdurdod lleol yn dweud: "Er ei bod hi wedi bod yma ers cwpl o wythnosau, mae ei hymddygiad wedi dirywio'n sylweddol.
"Rydyn ni'n pryderu'n fawr... [mae hi] dan risg sylweddol o aros fan hyn. Rydyn ni wedi gorfod ei hynysu hi'n llwyr o'r plant eraill a dyblu'r staff i'w chadw hi'n saff.
"Dwi'n gwybod nad oes angen i mi ddweud ein bod ni'n cadw plentyn seicotig sydd wir angen bod mewn ysbyty gyda darpariaeth CAHMS [Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc] arbenigol, mynediad i'r feddyginiaeth gywir ac ymyrraeth therapiwtig fel sydd wedi'i argymell gan CAHMS."
Dywedodd yr uned eu bod wedi gorfod peidio derbyn cleifion newydd oherwydd nifer y staff oedd eu hangen i edrych ar ôl y ferch.
Fe ddywedon nhw fod angen i'r ferch gael ei derbyn i'r ysbyty cyn gynted â phosib. Er hynny does dim lleoliad arall wedi ei ganfod.
Dywedodd yr Ustus Francis wrth y llys fod angen dysgu gwersi o'r achos.
Bydd gofal hir dymor y ferch yn cael ei drafod mewn gwrandawiad pellach.