Gemau Corneli i gael eu chwarae 'er mwyn y bechgyn'
- Cyhoeddwyd
Bydd clwb pêl-droed yn cynnal eu gemau ddydd Sadwrn er gwaethaf y ffaith bod 11 o'u chwaraewyr wedi gorfod cael eu trin yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro gan gar.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger maes Cornelly United yn dilyn gêm ddydd Iau.
Yn dilyn y digwyddiad cafodd dyn 35 oed ei arestio ar amheuaeth o anafu'n fwriadol.
Mewn neges Twitter dywedodd y clwb: "Rydyn ni'n teimlo ei bod hi ond yn iawn i'r clwb geisio sicrhau tri phwynt yn ein dwy gêm er mwyn y bechgyn yn yr ysbyty sydd wedi anafu."
'Afiach'
Bydd y tîm cyntaf yn teithio i Drefforest brynhawn Sadwrn yn adran gyntaf Cynghrair Undebol De Cymru.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad wedi i'r ail dîm drechu Margam 5-0 yn Stryd y Ddôl yng Nghorneli ger Pen-y-bont nos Iau.
Dywedodd ysgrifennydd y clwb Joe Jones fod y chwaraewyr yn sefyll yn y maes parcio pan wnaeth BMW eu taro.
"Roedd e'n afiach. Roedd rhieni yno, pobl yn rhuthro draw i helpu," meddai.
"Roedd yr ambiwlans a'r heddlu yn wych, mor sydyn ddaethon nhw."
Dywedodd y clwb fod un chwaraewr, Scott Walker, wedi dioddef anafiadau i'w ben-glin a'i glun, gan ychwanegu: "Gallai fod wedi bod yn llawer, llawer gwaeth."
Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw yn â gwybodaeth i gysylltu â nhw, gan rybuddio pobl hefyd i beidio rhoi fideos ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud y gallai "rwystro ein hymchwiliad".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018