Y Gynghrair Genedlaethol: Leyton Orient 1-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymdrechion Wrecsam i gyrraedd gemau ail gyfle'r Gynghrair Genedlaethol bellach allan o'u dwylo nhw wedi iddyn nhw golli i Leyton Orient.

Fe wnaeth peniad Macauley Bonne ar ôl hanner awr roi'r tîm cartref ar y blaen, wedi i Jobi McAnuff a Josh Koroma hefyd fethu cyfleoedd.

Wnaeth Wrecsam fethu a chreu unrhyw gyfleoedd clir, ac maen nhw nawr yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill i fynd o'u plaid os ydyn nhw am orffen yn y saith uchaf.

Gydag un gêm i fynd, maen nhw'n 10fed yn y tabl.