Brett Johns yn colli am y tro cyntaf yn yr UFC

  • Cyhoeddwyd
johns

Colli oedd hanes yr ymladdwr UFC o Gymru, Brett Johns, yn ei ornest yn New Jersey, UDA nos Sadwrn.

Roedd Johns yn wynebu'r Americanwr, Aljamain Sterling, yn ei bedwerydd gornest yng nghystadleuaeth yr UFC.

Fe benderfynodd beirniaid yr ornest fod Sterling yn fuddugol ar bwyntiau o 30-27.

Cyn yr ornest nos Sadwrn, roedd gan yr ymladdwr pwysau bantam record o dair buddugoliaeth o'r bron yn y gystadleuaeth, gyda chyfanswm o 15 buddugoliaeth broffesiynol dan ei felt.

Mae crefftau ymladd cymysg, neu mixed martial arts (MMA) yn fath o ymladd sy'n gweld cystadleuwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys reslo, bocsio, karate a jiwdo.

Yr UFC yw prif gystadleuaeth MMA y byd, ac mae bellach werth mwy na £3bn.