Teyrngedau i gyn-gynghorydd Llafur o Wynedd

  • Cyhoeddwyd
Tecwyn ThomasFfynhonnell y llun, Ian Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Bu Tecwyn Thomas yn gynghorydd tref yng Nghaernarfon a chynghorydd sir yng Ngwynedd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-gynghorydd Gwynedd, Tecwyn Thomas, sydd wedi marw yn 81 oed.

Fe fu'n aelod ffyddlon o'r Blaid Llafur a mudiad yr undebau llafur am ddegawdau, gan wasanaethu fel cynghorydd sir yn ogystal â bod yn gynghorydd tref yng Nghaernarfon.

Fe oedd Cadeirydd y Blaid Lafur yng Nghymru pan oedd y Prif Weinidog Rhodri Morgan yng nghanol trafodaethau cytundeb clymblaid Cymru'n Un yn 2007.

'Parch mawr'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y cyn-Weinidog Diwylliant yn Llywodraeth Cymru, Alun Pugh: "Roedd parch mawr i Tecwyn Thomas ar draws y genedl.

"Roedd yn llwyr ymrywmedig i wasanaethau cyhoeddus, a bydd y mudiad Llafur cyfan yn gweld ei eisiau'n fawr.

"Fel llawer o gydweithwyr eraill, dwi'n ddiolchgar i Tecwyn a'i wraig Iris am eu croeso yn eu cartref, y te a yfon ni a'r brechdanau a fwyton ni, a'r straeon a rannon ni."

Ar Twitter, dywedodd y cynghorydd Llafur dros ward Bethel, Sion Jones, bod Mr Thomas "wir yn ddyn dosbarth gweithiol, a Llafur drwyddi draw".

"Rydw i'n meddwl am ei deulu a'i ffrindiau. Diolch Tecwyn."