Lansio llyfr sy'n dathlu hawliau plant i chwarae
- Cyhoeddwyd

Bydd llyfr straeon a ysgrifennwyd gan blant yn cael ei lansio ddydd Gwener fel rhan o Ŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd.
Bu elusen Chwarae Cymru yn gweithio gyda phlant chwech a saith oed, a'u rhieni, yn Ysgol Gynradd Mount Stuart - ochr yn ochr â storïwr a chartwnydd - i greu llyfr am hawl plant i chwarae, Hwyl yn y Dwnjwn.
Mae'r llyfr dwyieithog wedi'i anelu at blant oed cynradd ac yn amlinellu hawliau plant sydd wedi'u diogelu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Bydd y llyfr yn cael ei ddosbarthu yng Nghymru dros y misoedd nesaf.
Mae'r cyfan yn rhan o ymgyrch gan Chwarae Cymru i godi ymwybyddiaeth am fuddiannau chwarae plant, a sut y gall oedolion gefnogi hynny.
'Llawn cyffro'
Dywedodd un rhiant fu'n rhan o'r cynllun: "Yr hyn wnaeth fy synnu fwyaf oedd y syniadau gwych ddyfeisiodd y plant ac roedd yn dipyn o sioc eu clywed yn cyfeirio at awgrymiadau traddodiadol ar gyfer chwarae.
"Fe wnaethon nhw wir ddefnyddio eu dychymyg a thynnu lluniau anhygoel.
"Roedd y grŵp mor swnllyd a llawn cyffro ar y dechrau, doeddwn i ddim yn disgwyl cael llyfr stori ar ddiwedd y sesiynau i fod yn onest!"
Dywedodd cyfarwyddwr cynorthwyol Chwarae Cymru, Marianne Mannello: "Mae Hwyl yn y Dwnjwn yn arddangos yn hyfryd sut y gall plant ganfod a chreu aml i ennyd o chwarae ble bynnag y maent.
"Mae'n ein hatgoffa y gall pob oedolyn ym mywyd plentyn un ai gefnogi neu atal yr hawl i chwarae.
"Diolch o galon i'n hawduron, yn blant a rhieni, am ein hatgoffa pan fo'r amodau'n iawn ar gyfer chwarae, y bydd yn ymddangos."
Ychwanegodd yr elusen bod y llyfr yn rhan bwysig o'u hymgyrch, ac y bydd yn dod ag ystod eang o adnoddau sy'n cael eu datblygu at ei gilydd.