Cymru'n arwain y gad gyda phrawf Syndrom Down
- Cyhoeddwyd
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig profion sgrinio dan y Gwasanaeth Iechyd fydd yn gallu dweud yn fwy pendant a oes gan fabi yn y groth Syndrom Down.
O ddydd Llun fe fydd yn bosib i ferched beichiog gael y prawf cyn-enedigaeth anymwthiol (non-invasive neu NIPT) hefyd yn sgrinio ar gyfer syndromau Edward a Patau.
Mae'r prawf, sy'n profi rhannau o DNA'r ffoetws yng ngwaed y fam i weld allai'r plentyn fod â chyflwr genetig neu gromosomaidd, eisoes ar gael yn breifat.
Bydd yn cael ei gynnig ar y Gwasnaeth Iechyd Gwladol yn ogystal â'r sgrinio cynenedigol presennol.
Ond mae disgwyl y bydd yna lai o alw yn y dyfodol am y dechneg sgrinio arferol, sef amniocentesis, oherwydd y risg o gam-esgor.
Mae amniocentesis yn profi'r hylif o amgylch y ffoetws ac yn achosi i un o bob 200 mam golli'i phlentyn.
Y gred yw bod prawf NIPT yn fwy diogel ac yn fwy cywir. Mae hefyd yn cael ei gyflwyno yn Lloegr eleni yn dilyn argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn "falch bod Cymru'n arwain y ffordd" trwy gynnig NIPT.
"Bydd y prawf mwy cywir hwn yn lleihau'r angen am brofion mewnwthiol pellach yn y mwyafrif o achosion, gan leihau nifer y camesgoriadau sy'n gysylltiedig â gweithdrefnau mewnwthiol."
Mae'r cyhoeddiad hefyd yn golygu y bydd sgrinio cyfun am y tro cyntaf ar gyfer syndromau Edward a Patau yn y tri mis cyntaf i fenywod sy'n cael un babi, a sgrinio cyfun ar gyfer syndromau Down, Edward a Patau yn y tri mis cyntaf mewn achosion lle mae'r fenyw yn disgwyl gefeilliaid.
Bydd y cynllun yn cael ei werthuso dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Sharon Hillier, cyfarwyddwr sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'n bwysig bod menywod yn cael eu cefnogi gyda gwybodaeth am y cyflyrau a'r sgrinio sy'n cael ei gynnig er mwyn iddyn nhw wneud y penderfyniad cywir ynghylch a ydyn nhw am dderbyn y cynnig hwn."
Ychwanegodd eu bod wedi diweddaru'r wybodaeth ysgrifenedig cyn y prawf a chynhyrchu ffilm fer. "Mae gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n trafod y sgrinio gyda menywod wedi cael hyfforddiant sydd wedi canolbwyntio ar ddewis personol a gwybodaeth gyfoes am y cyflyrau y mae'r sgrinio'n chwilio amdanynt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2017